Monday 20 May 2019

Literature Online: platfform newydd ar 1 Awst 2019


Mae Literature Online yn symud i blatfform newydd ar 1 Awst yn y lleoliad hwn: https://search.proquest.com/lion 



Y bydd pob llyfrnod a dolen yn cael eu cyfeirio’n awtomatig i’r Literature Online newydd.

Pwysig: os ydych chi wedi cadw cofnodion, chwiliadau ac ati yn Fy Archif, ni fydd y rhain yn cael eu trosglwyddo felly os oes arnoch eu hangen, mewngofnodwch i’w nôl nawr: 

Mae’r ddau blatfform yn cael eu rhedeg ar yr un pryd ar hyn o bryd, ond bydd yr hen un yn cael ei ddiffodd ar 1 Awst.

Cysylltwch ag acastaff@aber.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu arddangosiad.

Monday 13 May 2019

Meddalwedd pen-desg EndNote X9: nawr am ddim i’w lawrlwytho i fyfyrwyr a staff Prifysgol Aberystwyth

O ganlyniad i newidiadau yn y drwydded, os oes gan aelodau o staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth gyfrifiadur Mac neu Windows, gallent erbyn hyn lawrlwytho'r feddalwedd rheoli cyfeirnodi EndNote yn rhad ac am ddim.
  • Mewngofnodwch i'r tudalen lawrlwytho meddalwedd: https://faqs.aber.ac.uk/907 
  • Dewiswch Windows neu Mac o'r ddewislen Systemau Gweithredu 
  • Ewch i EndNote X9 yn y ddewislen meddalwedd, cliciwch ar Lawrlwytho a dilynwch y cyfarwyddiadau 
Er gwybodaeth: gellir eisoes lawrlwytho EndNote i gyfrifiaduron y sefydliad drwy Ganolfan Meddalwedd y Brifysgol: https://faqs.aber.ac.uk/2614

Mwy o wybodaeth yma am sut y gall EndNote eich cynorthwyo â'ch gwaith ymchwil drwy gadw a fformatio'ch cyfeirnodau, ac am yr hyfforddiant a'r cyngor sydd ar gael yn Aber.

Cysylltwch â'r tîm Cyswllt Academaidd drwy ebostio i acastaff@aber.ac.uk neu ffonio 01970621896 os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Friday 7 December 2018

Rhowch gynnig ar y Golwg Rhestr newydd yn Aspire nawr

Mae Rhestrau Darllen Aspire wedi cael eu huwchraddio, gan gyflwyno rhai newidiadau i’r ffordd y mae’r rhestrau darllen yn edrych yn Aspire.

Ni fydd newid i’r rhestrau darllen Aspire fel y maent yn ymddangos ym modiwlau Blackboard ac eithrio Dysgwyr o Bell IMLA a fydd yn gweld y newidiadau a ddisgrifir yma.

Gall staff sy’n mewngofnodi i olygu rhestrau yn Aspire newid rhestr yn ôl i’r cynllun blaenorol trwy glicio ar Allan Beta am gyfnod cyfyngedig.

Gweld rhestrau: gwelliannau
  • Mae lluniau o gloriau’r llyfrau wedi’u cynnwys yn yr eitemau ar y rhestr
  • Cliciwch ar deitl i ehangu’r wybodaeth am eitem ar y rhestr  
  • Gallwch weld eich rhestr / adrannau o’ch rhestr mewn arddull ddyfynnu o’ch dewis
  • Gallwch glicio ar Golwg: I gyd i hidlo eitemau ar y rhestr yn ôl darllen Hanfodol neu ddarllen Pellach, bwriadau darllen a nodiadau astudio
Gweld rhestrau: newidiadau
  • Defnyddiwch y llwybr byr glôb i doglo rhwng y Gymraeg a'r Saesneg
  • Os ydych chi’n defnyddio’r botwm Golwg: I gyd i hidlo Ffynonellau Corfforol neu Ar-lein: gallai’r wybodaeth a welwch ddod i’r casgliad anghywir nad yw rhywbeth ar gael mewn fformat penodol pan fo ar gael (gan ddibynnu ar sut mae eitemau wedi cael eu hychwanegu i Aspire, neu sut maent wedi’u cyd-gatalogio yn Primo).
  • I ddod o hyd i ddolen uniongyrchol i eitem, cliciwch ar y ddewislen gweithredu 3-dot i’r dde o’r eitem a chliciwch ar Rhannu eitem 
Staff sy’n golygu rhestrau: newidiadau
  • Nid yw'r botwm Cyhoeddi bellach yn ymddangos yn y ddewislen Golygu; cliciwch Golygu > Golygu rhestr (clasurol) i ddod o hyd i'r botwm Cyhoeddi ar ochr dde'r dudalene
  • Mae’r botwm Golygu yng nghanol neu ochr dde’r dudalen yn hytrach na’r ochr chwith 
  • Mae botwm y dangosfwrdd bellach yn y ddewislen Gweld ac Allforio o dan yr enw Dadansoddiadau
Mae’r Llyfrgellwyr Pwnc yn barod i ddangos nodweddion newydd y rhestr – cysylltwch â hwy’n uniongyrchol neu e-bostiwch acastaff@aber.ac.uk / neu ffonio 1896 gydag unrhyw gwestiynau sydd gennych neu i drefnu ymweliad.

Tuesday 14 August 2018

Prifysgol Aberystwyth yn dod yn ail yng nghategori Rhagoriaeth mewn Marchnata ac Ymgysylltu Academyddion yn Talis Insight Europe 2018

Mae’n bleser gennym rannu’r newyddion bod Prifysgol Aberystwyth wedi dod yn ail yn y categori Rhagoriaeth mewn Marchnata ac Ymgysylltu Academyddion a ddyfarnwyd gan Talis yn eu cynhadledd flynyddol ym mis Mai, ar ôl llwyddo i gael rhestrau cyhoeddedig ar gyfer 100% o’r modiwlau israddedig a addysgwyd yn 2017-18. Cynhaliwyd Talis Insight Europe 2018 yn Theatr Repertory Birmingham a chynhaliwyd y seremoni wobrwyo drws nesaf yn Library of Birmingham.

Cafodd y wobr ei chasglu gan Joy Cadwallader o’r tîm Ymgysylltu Academaidd, Llyfrgell Hugh Owen. Hoffem ddiolch i’n holl bartneriaid yn yr adrannau academaidd a’r gwasanaethau proffesiynol ym Mhrifysgol Aberystwyth am ymwneud â Aspire Reading Lists.

Monday 2 July 2018

Tudalen Rhestr Ddarllen Aspire newydd, ddiwygiedig ar gyfer Blackboard


Gall y cyngor a ddangosir yn flaenorol yn y panel chwith ar dudalen Rhestr Ddarllen Aspire yn Blackboard nawr cael ei ddarganfod trwy glicio ar y botwm ddewislen sydd drws nesaf i deitl y dudalen, er mwyn i’r rhestr ddarllen ddefnyddio’r lled llawn a ddefnyddir gan y ddau banel blaenorol.

Cysylltwch â’ch llyfrgellydd pwnc os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.

Thursday 10 May 2018

Cyfarfod LibTeachMeet Aber 2018 – Sut allwn ni wneud y llyfrgell yn fwy cynhwysol?



Mae Prifysgol Aberystwyth yn adnabyddus am ddarparu un o’r profiadau myfyrwyr gorau yn y DU ac mae rhan fawr o hynny’n gysylltiedig â’r synnwyr cryf o berthyn yr ydym yn ei feithrin, nid yn unig â’r myfyrwyr a’r staff ond gyda’r gymuned ehangach hefyd. 

Roedd Cyfarfod LibTeachMeet Aber eleni, a oedd yn canolbwyntio ar gynwysoldeb, yn gyfle da i ystyried beth yr ydym yn ei wneud yn dda ond hefyd i ystyried beth arall y gallwn ni ei wneud fel unigolion ac fel sefydliad i fodloni anghenion amrywiol ein defnyddwyr yn well a gwneud y llyfrgell mor gynhwysol â phosibl i bawb. 

Gwnaethom drefnu deg o gyflwyniadau a oedd yn ymchwilio i elfennau gwahanol yn ymwneud â chynwysoldeb – bodloni gofynion myfyrwyr rhyngwladol neu fyfyrwyr dwyieithog, cefnogi’r rhai sydd â nam golwg neu’r rhai sydd ag atal dweud neu feithrin cynwysoldeb drwy annog myfyrwyr i ddarllen.

Roedd y digwyddiad ei hun yn adlewyrchu’r pwnc a drafodwyd. Roedd y siaradwyr yn dod o bedwar sefydliad gwahanol – Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerlŷr, Sheffield Hallam Prifysgol a Phrifysgol Abertawe. Hefyd, roedd cynrychiolwyr o dair adran wahanol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn bresennol – Canolfan Myfyrwyr Rhyngwladol, Cymorth i Fyfyrwyr, a’r Gwasanaethau Gwybodaeth. Roedd yr awyrgylch yn anffurfiol a hynaws, gwnaethom drafod syniadau’n agored, gofyn cwestiynau a mynegi gwerthfawrogiad am brofiadau a rennir.

Dechreuodd y diwrnod gyda chyflwyniad gan y llyfrgellydd pwnc, Lloyd Roderick, am ei brofiad o ddysgu llythrennedd gwybodaeth yn ddwyieithog. Rhannodd rai adnoddau defnyddiol megis yr Esboniadur a Gwerddon ar gyfer cynorthwyo myfyrwyr sy’n astudio yn Gymraeg. 


Dilynwyd cyflwyniad Lloyd gan Yvonne Rinkart o’r Ganolfan Myfyrwyr Rhyngwladol a gyflwynodd ddarganfyddiadau astudiaeth fer a oedd yn ymchwilio i ddefnydd myfyrwyr sylfaen rhyngwladol o’r llyfrgell. Un o’r pwyntiau a godwyd gan Yvonne oedd bod myfyrwyr rhyngwladol yn fwy tueddol o gael ‘pryder llyfrgell’ – sef y teimlad o fod wedi’u drysu a’u llethu gan y llyfrgelloedd. 

Roedd y cyflwyniad nesaf gan John Harrington a Diane Jones, siaradwyr o’r Ganolfan Cymorth i Fyfyrwyr, yn rhoi trosolwg da i ni o’r gwasanaethau anabledd y maent yn eu darparu ynghyd ag ystadegau ar gyfer Prifysgol Aberystwyth, a gwnaethant egluro gwir ystyr cynhwysiad.



Cawsom gyfle hefyd i edrych ar gynwysoldeb o safbwynt y myfyriwr. Siaradodd myfyrwraig a raddiodd yn ddiweddar o PA, Cerys Davies, am ei phrofiad o ddefnyddio’r llyfrgell fel myfyrwraig oedd â nam golwg. Gwnaeth y sgwrs ysbrydoli ton o sylwadau a chwestiynau cadarnhaol. Ymhlith nifer o bwyntiau gwerthfawr eraill, siaradodd Cerys am yr anhawster yr oedd hi’n ei gael i ddod o hyd i ddeunyddiau darllen hygyrch. 

Siaradwyr gwadd cynta’r dydd oedd Harinder Matharu ac Adam Smith a oedd wedi ymuno â ni o Brifysgol Caerlŷr. Rhoesant drosolwg i ni o’r ddwy fenter sy’n cyfrannu at amgylchedd cynhwysol eu prifysgol – ‘Read at Leicester’ ac ‘Unearthing Histories’. Roedd cryfhau synnwyr o berthyn grwpiau lleiafrifol drwy ymchwilio i’w hanes yn archifau’r brifysgol yn syniad cwbl ysbrydoledig.

Siaradodd un o aelodau o staff y Ddesg Gymorth TG – Alice Farnworth, am fanteision mewnosod hyfforddiant meddalwedd DSA o fewn ein gwasanaeth llyfrgell. Cyflwynodd amrywiaeth o offer cynorthwyol i ni, ac mae rhai ohonynt megis Read&Write neu Inspiration ar gael ar gyfrifiaduron cyhoeddus yn Aber.

Nesaf, dywedodd Philippa Price, sydd ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Llyfrgellydd Cymreig y flwyddyn, wrthym am y Grŵp Gwasanaeth Cynhwysol sydd wedi’i sefydlu ym Mhrifysgol Abertawe. Siaradodd Philippa am amrywiaeth eang o fentrau y mae’r Grŵp yn eu trefnu a’u hyrwyddo, megis creu rhestrau darllen argymelledig ar gyfer y gymuned LGBT neu wneud pecynnau urddas ar gyfer menywod digartref. 

Siaradodd Hannah Dee, darlithydd o’r Adran Gyfrifiadureg â ni am y syniad o wella dull ysgrifennu’r myfyrwyr a’u gallu i ddarllen trwy drefnu clwb llyfrau ffuglen wyddonol i fyfyrwyr a staff o’i hadran. Gwnaeth Hannah ein cyflwyno hefyd i rai llyfrau diddorol, ac rydym yn ddiolchgar iawn iddi.

Gwnaeth siaradwr gwadd arall, sef Paul Conway o Brifysgol Sheffield Hallam, drafod templedi hygyrch ar gyfer cyflwyniadau a thaflenni ac awgrymiadau eraill ar fod yn gynhwysol yn y dosbarth. Rhoddodd Kate Wright o Grŵp E-ddysgu Prifysgol Aberystwyth gyflwyniad byr ar gefnogi defnyddwyr sydd ag atal dweud. Gwnaeth Kate rai pwyntiau diddorol gan gynnwys nad yw atal dweud yn cael ei weld fel anabledd, er ei fod wedi’i ddosbarthu fel anabledd. Trafododd hefyd yr ystrydebau ynghylch atal dweud. 

Fel y tri cyfarfod LibTeachMeet diwethaf, roedd hwn yn fforwm arbennig i fyfyrio ar ein harferion presennol ac i gael syniadau newydd er mwyn parhau i adeiladu ar ein henw da o ran cynwysoldeb mewn amgylchedd amrywiol sy’n newid yn gyflym. Cawsom adborth cadarnhaol gan siaradwyr a mynychwyr a ddisgrifiodd y rhaglen fel un ddiddorol, amrywiol, addysgiadol ac un sy’n pryfocio’r meddwl. Rydym ni’n gwerthfawrogi presenoldeb  pawb a ymunodd â ni a gobeithio y bydd yn ysbrydoli syniadau da a fydd yn ein cynorthwyo wrth geisio cynyddu ymwybyddiaeth a hygyrchedd o ran adnoddau’r llyfrgell a’r gwasanaethau a gynigir yma.