Thursday 9 March 2017

Adnodd y Mis: Web of Science


Mae Web of Science yn adnodd ar-lein sydd ar gael ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae’n rhoi mynediad i filoedd o ddyfyniadau, cyhoeddiadau a chyfnodolion gwyddonol y gellir chwilio amdanynt yn hawdd o fewn y Brif Restr o Gyfnodolion.

Sut y gall yr adnodd helpu myfyrwyr;

  • Mae’n helpu i gynorthwyo ymchwil ar gyfer aseiniadau, traethodau hir ac arholiadau – Mae’r gronfa ddata’n cynnig mynediad hawdd i gyfeiriadau llyfryddiaethol, testunau a’r ymchwil academaidd diweddaraf.
  • Mae’r gronfa ddata’n ymdrin ag amrywiaeth eang o bynciau – Mae’r casgliad craidd o gyfnodolion ysgolheigaidd yn ymdrin â phynciau gwyddonol yn ogystal â’r gwyddorau cymdeithasol a’r celfyddydau a’r dyniaethau.
  • Gellir cael mynediad i gronfeydd data byd-eang eraill o fewn casgliad y Web of Science – mae’r rhain yn cynnwys cronfa ddata MEDLINE, sef cronfa ddata Llyfrgell Genedlaethol Meddyginiaeth UDA, y gronfa ddata biowyddorau, BIOSIS, a’r Russian Science Citation Index.
Dyma’r mathau o ddogfennau sydd ar gael o fewn y gronfa ddata;

• Erthyglau mewn cyfnodolion
• Penodau mewn llyfrau
• Eitemau bywgraffyddol
• Eitemau newyddion
• Llyfryddiaethau

Gellir cael mynediad i Web of Science ar-lein o Rwydwaith y Brifysgol ar: http://wok.mimas.ac.uk  neu o http://apps.webofknowledge.com/ neu cysylltwch â’r tab Adnoddau A i Y Primo dan W.

Os ydych chi’n defnyddio Web of Science oddi ar y campws, cysylltwch drwy VPN y Brifysgol: https://www.aber.ac.uk/cy/is/it-services/vpn/.

Gellir cael mynediad i'r tiwtorial fideo yma: http://wokinfo.com/training_support/training/web-of-knowledge/ 

Mae Canllaw Cyfeirio Cyflym Web of Science ar gael ar:
http://wokinfo.com/media/pdf/qrc/webofscience_qrc_en.pdf 

Cysylltwch â acastaff@aber.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu arddangosiad.









No comments: