Friday 18 March 2016

Adolygiad o Effeithlonrwydd a Chyfyngiadau archnadoedd Mynediad Agored Aur

Mae asesiad newydd o sut mae marchnadoedd Mynediad Agored Aur “talu-i-gyhoeddi” yn gweithio wedi cael ei gyhoeddi gan JISC (11 Chwefror 2016) mewn cydweithrediad â Research Libraries UK, SCONUL a Chymdeithas Rheolwyr a Gweinyddwyr Ymchwil (ARMA). Mae’r adolygiad “Academic Journal Markets: their Limitations and the Consequences for a Transition to Open Access” yn dod i’r casgliad bod y system newydd pwrpasol ar gyfer cyhoeddi mynediad agored, gydag awduron neu eu sefydliadau yn talu Tâl Prosesu Erthygl (APCs) i alluogi mynediad agored i bob papur yn y cyfnodolyn, yn gweithio’n weddol dda. Dywed fod rhwystrau isel i fynediad, lefelau uchel o ddatblygiad technolegol a chwsmeriaid yn ymateb yn dda i wahaniaethau prisio APC rhwng cyfnodolion a chyhoeddwyr.

Mae safonau’r gwasanaeth a gynigir i awduron gan y cyhoeddwyr Mynediad Agored Aur newydd yn cymharu’n dda â’r gwasanaeth a gynigir gan y cyhoeddwyr tanysgrifio traddodiadol sy’n cynnig dewisiadau mynediad agored “hybrid”. Mesurwyd pa mor ddibynadwy ac agored yw erthyglau unigol, rhychwant y trwyddedau ailddefnyddio mynediad agored sydd ar gael a’r Tâl Prosesu Erthygl a godir, a gwelwyd eu bod oll yn well ym marchnad bwrpasol mynediad agored.

Asesir nad oes modd ‘cynnal’ na ‘dringo’ y “cynigion gwrthbwyso” (offset deals) a gynigir gan gyhoeddwyr tanysgrifio traddodiadol, sef bod y taliadau APC a godir ar sefydliadau’r awduron yn cael eu cydbwyso yn erbyn ffioedd tanysgrifio, fel nad yw cyfanswm y taliadau a wneir gan brifysgolion ar gyfer cyhoeddi mewn cyfnodolyn penodol a thanysgrifio iddo yn codi yn anghymesur drwy “drochi ddwywaith”. Mae’r baich gweinyddol y mae systemau gwrthbwyso o’r fath yn ei roi ar gyhoeddwyr a sefydliadau academaidd yn cael ei ystyried yn arwyddocaol ac yn gymhlethu diangen ar strwythur y farchnad mynediad agored.

Mae sylw hefyd i effaith cymalau ‘ni ellir canslo’ wrth danysgrifio i “gynigion mawr” cyhoeddwyr tanysgrifio yn gyson yn gwasgu cyhoeddwyr llai allan o’r farchnad cyfnodolion yn gyfan gwbl, a cheir sôn yn benodol am effeithiau gor-grynhoi yn y sector cyhoeddi academaidd, cyfyngu ar amrywiaeth y cyfnodolion sydd ar gael, a gostyngiad yn y cyllid ar gyfer prynu testunau israddedig.

Er gwaethaf yr holl fanteision hyn, serch hynny, mae cynnydd tuag at fynediad agored yn y Deyrnas Unedig yn parhau i fod yn arafach nag y gellid bod wedi disgwyl, gyda dros 60% o ymchwil yn y DU yn dal i fod y tu ôl i rwystrau tanysgrifiad yn 2015 yn ôl y Rhwydwaith Gwybodaeth Ymchwil gan arwain o bosibl at golli cyfleoedd masnachol a chyfyngu ar effaith academaidd y Deyrnas Unedig.

Ceir sylwadau hefyd ynghylch y ffaith mai’r Deyrnas Unedig a’r Iseldiroedd yw’r unig wledydd hyd yma i flaenoriaethu llwybr Mynediad Agored Aur, gyda’r rhan fwyaf o wledydd eraill a sefydliadau rhyngwladol yn ffafrio llwybr Mynediad Agored Gwyrdd o adneuo fersiynau ar ôl argraffu neu fersiynau terfynol dan embargo mewn cadwrfeydd pwnc neu sefydliadol. Mae cyhoeddi academaidd wir yn farchnad ryngwladol ac os bydd y farchnad Mynediad Agored Aur yn gyfyngedig i ddwy neu dair gwlad yn unig, bydd ei siawns o ymdreiddio i farchnad fyd-eang yn parhau i fod yn fach a’r cynnydd yn araf.

I gloi, mae’r adroddiad yn argymell nifer o strategaethau er mwyn mynd i’r afael â’r diffyg treiddiad i’r farchnad Mynediad Agored Aur, gan gynnwys:

  • cyfyngu ar y graddau y gellir defnyddio grantiau Mynediad Agored yr RCUK ar gyfer cyhoeddi mewn cylchgronau hybrid, 
  • datblygu dangosyddion ansawdd gwell ar gyfer cyfnodolion i annog awduron i gyhoeddi mwy o’u papurau pwysig mewn cyfnodolion Mynediad Agored Aur pwrpasol, 
  • a sicrhau bod cyhoeddwyr cymdeithasau bach yn cael  mecanweithiau effeithiol i aros yn y farchnad gyhoeddi Mynediad Agored.


Gellir gwneud sylwadau ar Twitter drwy ddefnyddio #OAjournalsmarket 

Steve Smith
Grwp Cysylltiadau Academaidd
Llyfrgell Hugh Owen

Tuesday 1 March 2016

Pwysig: rhowch wybod i ni beth hoffech chi ei ddigido

Os yw eich rhestr ddarllen / rhestrau darllen yn Aspire yn cynnwys penodau o lyfrau neu erthyglau o gyfnodolion yr hoffech iddynt ymddangos wedi’u digido ar BlackBoard mae’n rhaid i chi ychwanegu’r geiriau “Digido os gwelwch yn dda” yn y maes Nodyn i’r llyfrgell. 

Y dyddiadau cau ar gyfer ychwanegu/diweddaru rhestrau darllen yw
  • Dysgu o Bell: Mehefin 30ain
  • Semester Un a modiwlau a addysgir dros y ddau semester: Gorffennaf 31ain
  • Semester Dau: Tachwedd 30ain
I ychwanegu Nodyn i’r llyfrgell ar gyfer rhestr sy’n bodoli eisoes:
  • Mewngofnodwch i Aspire.
  • Cliciwch ar Fy Rhestrau.
  • Cliciwch ar y rhestr yr hoffech ei golygu.
  • Cliciwch ar y gwymplen Golygu a chliciwch ar Golygu Rhestr.
  • Cliciwch ar Golygu nodiadau a phwysigrwydd ar gyfer pob pennod neu erthygl sydd angen eu digido.
Yng nghanol y blwch sy’n ymddangos fe welwch y maes Nodyn i’r llyfrgell.

 
  • Teipiwch: Digido os gwelwch yn dda
  • Cliciwch ar Cadw
Nawr ailgyhoeddwch eich rhestr.

Ceir cyfarwyddiadau ar gyfer ychwanegu penodau neu erthyglau i restrau darllen Aspire yma. 

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau cysylltwch â’r Llyfrgellwyr Cysylltiadau Academaidd acastaff@aber.ac.uk / (0197062) 1896.