Monday 7 November 2016

Tachwedd 30ain – Dyddiad cau Rhestrau Darllen Aspire Semester 2

Mae staff y Llyfrgell yn prynu llyfrau ac yn awr yn digideiddio ar gyfer modiwlau sy’n cael eu dysgu yn Semester Dau 2016-17.
Rhaid ychwanegu eich Rhestrau Darllen i Aspire ar gyfer modiwlau sy’n cael eu dysgu yn Semester 2 (neu sy’n cael eu dysgu dros y ddau semester) a rhaid diweddaru ac ail-gyhoeddi rhestrau Aspire cyfredol erbyn diwedd Tachwedd neu ni fydd modd gwarantu y bydd deunydd Llyfrgell a dogfennau wedi eu digideiddio ar gael mewn da bryd ar gyfer dysgu.
New: are you planning a reading list for a returning module? Check the reading list archive and let us know if you'd like a previously-published Aspire list retrieved for you to re-purpose.

Os gwelwch yn dda cysylltwch â’ch llyfrgellydd pwnc os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â hyn.Efallai bydd y dolenni isod o ddefnydd:
Os gwelwch yn dda cysylltwch â’ch llyfrgellydd pwnc neu’r tîm Gwasanaethau Academaidd acastaff@aber.ac.uk 01970621896 os ydych am hyfforddiant neu sesiwn ddiweddaru. Rydym yn hapus i ymweld â chi ar adeg a lle sy’n gyfleus i chi.

Monday 20 June 2016

Friday 20 May 2016

Bydd ‘LibTeachMeet’ yn dod yma ar 1 Mehefin 2016!
Y thema eleni yw:
Sut mae llyfrgelloedd yn eich helpu yn y farchnad swyddi?
Ymhlith llyfrgellwyr ym mhob sector, un o’r elfennau mwyaf cyfnewidiol o’n gwaith, ac un sy’n dod yn fwyfwy pwysig, yw Cyflogadwyedd.  













Rydym yn gobeithio dod â llyfrgellwyr at ei gilydd o wahanol sectorau i drafod a rhannu eu profiadau ynghylch sut mae’ch gwaith yn cyfrannu at gyflogadwyedd pobl, a bydd cyfle i ddysgu a chyfnewid safbwyntiau ar sgiliau’r gweithle.
Felly dewch draw i’n ‘LibTeachMeet’ ym Medrus 1, Campws Penglais Aberystwyth ddydd Iau 9 Mehefin 2016, a rhannu’ch profiadau o gyfrannu at gyflogadwyedd.




 

Monday 9 May 2016

Adnewyddu/ creu eich rhestrau darllen yn Aspire- dyddiad olaf ar gyfer Semester 1

Dyma neges gynnar i’ch atgoffa i ddiweddaru eich rhestrau darllen Aspire ac i lunio unrhyw restrau newydd sydd eu hangen ar gyfer y flwyddyn academaidd a ddaw.

Y dyddiad cau ar gyfer modiwlau a ddysgir yn Semester 1 (neu a ddysgir dros y ddwy semester) yw: 31 Gorffennaf (mis yn hwyrach na’r llynedd).

Y dyddiad cau ar gyfer modiwlau dysgu o bell yw: 30 Mehefin

Er gwybodaeth, mae’r dyddiad cau ar gyfer Semester 2 yn aros yr un fath, sef 30 Tachwedd.

Cofiwch: mae’n rhaid i chi ychwanegu nodyn i'r llyfrgell yn dweud “Digideiddiwch os gwelwch yn dda” ar gyfer unrhyw benodau ac erthyglau sydd angen eu digideiddio, hyd yn oed os ydynt wedi cael eu digideiddio yn y gorffennol, neu ni fyddant yn cael eu digideiddio ar gyfer 2016-2017. Yna, ail-gyhoeddwch eich rhestr Aspire.

Newydd: Os nad yw eich rhestr Aspire wedi cael ei (hail)gyhoeddi ar unrhyw adeg yn ystod y 52 wythnos cyn y dyddiad cau, ni fydd unrhyw geisiadau digido ar gyfer y rhestr honno yn cael eu prosesu ar gyfer 2016-2017.

Newydd: os nad oes angen rhestr ddarllen ar eich modiwl e.e. blwyddyn ar leoliad, gallwch nodi hynny ar Astra. Bydd hyn yn sicrhau na fydd yn cael ei gyfrif wrth i’r Gwasanaethau Gwybodaeth gasglu ystadegau am y defnydd adrannol o Aspire.

Newydd: Sut i rheoli rhestr Aspire os yw côd y modiwl yn newid.

Os ydych wedi creu rhestr ddrafft yn Aspire ac yn methu â’i chysylltu â’r hierarchaeth, neu os hoffech gael hyfforddiant neu gwrs gloywi Aspire , neu os oes gennych gwestiwn ynglŷn â’r blog hwn: cysylltwch â’r Llyfrgellwyr Gwasanaethau Academaidd: 01970621896 acastaff@aber.ac.uk

Monday 11 April 2016

31 Mai : dyluniad newydd i Primo a newid llwybrau i adnoddau gwybodaeth electronig


Ar ôl ymgynghori â grwpiau ffocws myfyrwyr, penderfynwyd  i ailgynllunio Primo i’w wneud yn dudalen lanach, sy’n haws i’w ddefnyddio drwy ffonau symudol, gyda dolenni i’r prif ffynonellau a ffurflenni cais wedi’u gosod gyda’i gilydd ar faner felen y dudalen, yn ogystal â chymorth a chyngor hwylus a gwybodaeth am gyrsiau hyfforddi.





Bydd chwiliadau casgliadau Aber yn chwilio drwy gasgliadau holl lyfrgelloedd y Brifysgol, a fydd yn eich galluogi i fanteisio ar adnoddau na fyddech yn ymwybodol ohonynt fel arall o bosib. Fel arfer, bydd modd i chi fireinio eich canlyniadau yn ôl lleoliad ar ôl y chwiliad cychwynnol.

Newid y llwybrau at adnoddau gwybodaeth electronig

Bydd y ddolen Cronfeydd Data A-Z yn cael ei disodli gan y ddolen E-adnoddau A-Z, sef rhestr o adnoddau gwybodaeth electronig yn nhrefn yr wyddor.
Mae’r ddolen i’w chael ar y faner felen, ar bwys E-journals@aber lle y gallwch chwilio a phori drwy ddaliadau cyfnodolion electronig Prifysgol Aberystwyth.
D.S. ni fydd yr holl dudalennau gwe sydd ar gael drwy Cronfeydd data A-Z yn cael eu cynnwys yn E-Adnoddau A-Z.

Bydd adnoddau gwybodaeth electronig ar gyfer pynciau penodol hefyd yn cael eu hyrwyddo drwy’r tudalennau Gwybodaeth pwnc.

Ni fydd y chwiliad “Cronfeydd data dethol” yn Cronfeydd data A-Z ar gael o hyn ymlaen. Serch hynny, mae’r chwiliad Erthyglau a mwy yn dychwelyd canlyniadau o filoedd lawer o adnoddau gwybodaeth electronig y gallwch eu storio ar eich E-silff.

Os oes gennych un neu fwy o setiau o gronfeydd data wedi’u storio yn Cronfeydd data A-Z, a’ch bod eisiau gwneud cofnod ohonynt cyn i’r ddolen Cronfeydd Data A-Z gael ei disodli, cofiwch sicrhau eich bod yn gwneud hynny cyn 31 Mai.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r newidiadau hyn, cysylltwch â’ch llyfrgellydd pwnc neu acastaff@aber.ac.uk 01970 621896.

Friday 18 March 2016

Adolygiad o Effeithlonrwydd a Chyfyngiadau archnadoedd Mynediad Agored Aur

Mae asesiad newydd o sut mae marchnadoedd Mynediad Agored Aur “talu-i-gyhoeddi” yn gweithio wedi cael ei gyhoeddi gan JISC (11 Chwefror 2016) mewn cydweithrediad â Research Libraries UK, SCONUL a Chymdeithas Rheolwyr a Gweinyddwyr Ymchwil (ARMA). Mae’r adolygiad “Academic Journal Markets: their Limitations and the Consequences for a Transition to Open Access” yn dod i’r casgliad bod y system newydd pwrpasol ar gyfer cyhoeddi mynediad agored, gydag awduron neu eu sefydliadau yn talu Tâl Prosesu Erthygl (APCs) i alluogi mynediad agored i bob papur yn y cyfnodolyn, yn gweithio’n weddol dda. Dywed fod rhwystrau isel i fynediad, lefelau uchel o ddatblygiad technolegol a chwsmeriaid yn ymateb yn dda i wahaniaethau prisio APC rhwng cyfnodolion a chyhoeddwyr.

Mae safonau’r gwasanaeth a gynigir i awduron gan y cyhoeddwyr Mynediad Agored Aur newydd yn cymharu’n dda â’r gwasanaeth a gynigir gan y cyhoeddwyr tanysgrifio traddodiadol sy’n cynnig dewisiadau mynediad agored “hybrid”. Mesurwyd pa mor ddibynadwy ac agored yw erthyglau unigol, rhychwant y trwyddedau ailddefnyddio mynediad agored sydd ar gael a’r Tâl Prosesu Erthygl a godir, a gwelwyd eu bod oll yn well ym marchnad bwrpasol mynediad agored.

Asesir nad oes modd ‘cynnal’ na ‘dringo’ y “cynigion gwrthbwyso” (offset deals) a gynigir gan gyhoeddwyr tanysgrifio traddodiadol, sef bod y taliadau APC a godir ar sefydliadau’r awduron yn cael eu cydbwyso yn erbyn ffioedd tanysgrifio, fel nad yw cyfanswm y taliadau a wneir gan brifysgolion ar gyfer cyhoeddi mewn cyfnodolyn penodol a thanysgrifio iddo yn codi yn anghymesur drwy “drochi ddwywaith”. Mae’r baich gweinyddol y mae systemau gwrthbwyso o’r fath yn ei roi ar gyhoeddwyr a sefydliadau academaidd yn cael ei ystyried yn arwyddocaol ac yn gymhlethu diangen ar strwythur y farchnad mynediad agored.

Mae sylw hefyd i effaith cymalau ‘ni ellir canslo’ wrth danysgrifio i “gynigion mawr” cyhoeddwyr tanysgrifio yn gyson yn gwasgu cyhoeddwyr llai allan o’r farchnad cyfnodolion yn gyfan gwbl, a cheir sôn yn benodol am effeithiau gor-grynhoi yn y sector cyhoeddi academaidd, cyfyngu ar amrywiaeth y cyfnodolion sydd ar gael, a gostyngiad yn y cyllid ar gyfer prynu testunau israddedig.

Er gwaethaf yr holl fanteision hyn, serch hynny, mae cynnydd tuag at fynediad agored yn y Deyrnas Unedig yn parhau i fod yn arafach nag y gellid bod wedi disgwyl, gyda dros 60% o ymchwil yn y DU yn dal i fod y tu ôl i rwystrau tanysgrifiad yn 2015 yn ôl y Rhwydwaith Gwybodaeth Ymchwil gan arwain o bosibl at golli cyfleoedd masnachol a chyfyngu ar effaith academaidd y Deyrnas Unedig.

Ceir sylwadau hefyd ynghylch y ffaith mai’r Deyrnas Unedig a’r Iseldiroedd yw’r unig wledydd hyd yma i flaenoriaethu llwybr Mynediad Agored Aur, gyda’r rhan fwyaf o wledydd eraill a sefydliadau rhyngwladol yn ffafrio llwybr Mynediad Agored Gwyrdd o adneuo fersiynau ar ôl argraffu neu fersiynau terfynol dan embargo mewn cadwrfeydd pwnc neu sefydliadol. Mae cyhoeddi academaidd wir yn farchnad ryngwladol ac os bydd y farchnad Mynediad Agored Aur yn gyfyngedig i ddwy neu dair gwlad yn unig, bydd ei siawns o ymdreiddio i farchnad fyd-eang yn parhau i fod yn fach a’r cynnydd yn araf.

I gloi, mae’r adroddiad yn argymell nifer o strategaethau er mwyn mynd i’r afael â’r diffyg treiddiad i’r farchnad Mynediad Agored Aur, gan gynnwys:

  • cyfyngu ar y graddau y gellir defnyddio grantiau Mynediad Agored yr RCUK ar gyfer cyhoeddi mewn cylchgronau hybrid, 
  • datblygu dangosyddion ansawdd gwell ar gyfer cyfnodolion i annog awduron i gyhoeddi mwy o’u papurau pwysig mewn cyfnodolion Mynediad Agored Aur pwrpasol, 
  • a sicrhau bod cyhoeddwyr cymdeithasau bach yn cael  mecanweithiau effeithiol i aros yn y farchnad gyhoeddi Mynediad Agored.


Gellir gwneud sylwadau ar Twitter drwy ddefnyddio #OAjournalsmarket 

Steve Smith
Grwp Cysylltiadau Academaidd
Llyfrgell Hugh Owen

Tuesday 1 March 2016

Pwysig: rhowch wybod i ni beth hoffech chi ei ddigido

Os yw eich rhestr ddarllen / rhestrau darllen yn Aspire yn cynnwys penodau o lyfrau neu erthyglau o gyfnodolion yr hoffech iddynt ymddangos wedi’u digido ar BlackBoard mae’n rhaid i chi ychwanegu’r geiriau “Digido os gwelwch yn dda” yn y maes Nodyn i’r llyfrgell. 

Y dyddiadau cau ar gyfer ychwanegu/diweddaru rhestrau darllen yw
  • Dysgu o Bell: Mehefin 30ain
  • Semester Un a modiwlau a addysgir dros y ddau semester: Gorffennaf 31ain
  • Semester Dau: Tachwedd 30ain
I ychwanegu Nodyn i’r llyfrgell ar gyfer rhestr sy’n bodoli eisoes:
  • Mewngofnodwch i Aspire.
  • Cliciwch ar Fy Rhestrau.
  • Cliciwch ar y rhestr yr hoffech ei golygu.
  • Cliciwch ar y gwymplen Golygu a chliciwch ar Golygu Rhestr.
  • Cliciwch ar Golygu nodiadau a phwysigrwydd ar gyfer pob pennod neu erthygl sydd angen eu digido.
Yng nghanol y blwch sy’n ymddangos fe welwch y maes Nodyn i’r llyfrgell.

 
  • Teipiwch: Digido os gwelwch yn dda
  • Cliciwch ar Cadw
Nawr ailgyhoeddwch eich rhestr.

Ceir cyfarwyddiadau ar gyfer ychwanegu penodau neu erthyglau i restrau darllen Aspire yma. 

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau cysylltwch â’r Llyfrgellwyr Cysylltiadau Academaidd acastaff@aber.ac.uk / (0197062) 1896.

Wednesday 17 February 2016

Gwnewch eich hun yn fwy Cyflogadwy trwy gyfrwng ein prawf ar Keynote

Ar hyn o bryd mae Keynote yn cael ei brofi tan 6ed Ebrill 2016.  Mae’r gronfa-ddata hon yn adnodd arbennig o dda i fyfyrwyr ar draws yr holl ddisgyblaethau. Mae’n hawdd ei defnyddio a gall myfyrwyr ddysgu mwy am ddarpar-gyflogwyr cyn cael cyfweliad.

Yn gryno:

·         Gallwch ymchwilio i gwmni (yn y Deyrnas Gyfunol) – gan gynnwys agweddau ariannol, prif gysylltiadau

·         Gallwch ddadansoddi cryfderau a gwendidau marchnad benodol

·         Gallwch ddysgu am faterion cyfoes a allai effeithio ar ddarpar gyflogwr neu farchnad

·         Gallwch weld rhagolygon 5 mlynedd o dueddiadau a datblygiadau

·         Gallwch ymchwilio i gyfleoedd am dwf busnes newydd

·         Perthnasol i gyflogadwyedd pob myfyriwr yn y Brifysgol.

 Gallwch gymryd rhan yn y prawf ar y campws (VPN oddi ar y campws): https://www.keynote.co.uk/content/employability  neu www.keynote.co.uk
 

Tuesday 16 February 2016

Oes gennych chi ddiddordeb mewn modiwl? Beth am gymryd golwg ar y rhestr ddarllen?



  •   Ewch i'r dudalen Gwybodaeth Modiwlau
  •   Dewch o hyd i'r dudalen wê ar gyfer modiwl drwy chwilio am côd y modiwl yn ôl adran.
  •  Os oes restr ddarllen wedi cael ei greu ar gyfer y modiwl hwn bydd View on Aspire  i glicio ar:-

  •  Bydd hyn yn mynd â chi at y rhestr ddarllen modiwl yn Aspire ar gyfer y flwyddyn academaidd.

  •     Os ydych yn dewis modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf, cofiwch wirio ar y dudalen ‘Gwybodaeth Modiwlau’ fod y modiwl mae gennych ddiddordeb ynddo yn rhedeg y flwyddyn nesaf.









Friday 12 February 2016

Adolygiad Annibynnol Tickell ar gynnydd yn y Modelau Mynediad Agored

Comisiynwyd adolygiad annibynnol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar gynnydd diweddar yn y farchnad cyhoeddiadau mynediad agored "Open Access to Research Publications: Independent Advice" wedi’i gyhoeddi ar 11 Chwefror, mae’r adolygiad yn argymell cymryd y camau canlynol:

i) Parhau i gefnogi’r model Mynediad Agored Aur ond nodi bod rhai cyrff cyllido ymchwil rhyngwladol yn amlwg yn ffafrio’r aur a bod y mwyafrif helaeth yn cefnogi’r Gwyrdd, gyda hyblygrwydd i awduron gyhoeddi drwy’r Aur.

ii) Mae modelau busnes ar gyfer cyhoeddi cyfnodolion Mynediad Agored wedi bod yn llai ymatebol i bwysau’r farchnad nag a ragwelwyd ac mae costau yn parhau i godi. Bu cynnydd ‘cyson a sydyn’ yng nghost gyfartalog prynu papurau Mynediad Agored Aur, ac nid yw’r gostyngiad cyfatebol mewn costau tanysgrifio wedi bod yn gymesur. Gallai’r costau o wthio ffafriaeth gref am Fynediad Agored Aur godi o £33m yn 2014 i rhwng £40 a £83m erbyn 2020, gydag oddeutu tri chwarter o’r cynnydd hwn yn ganlyniad i gyhoeddi mewn teitlau mynediad agored / tanysgrifiad hybrid.

iii) Er y cydnabyddir yn eang mai’r Deyrnas Unedig yw’r wlad fwyaf blaenllaw yn y mudiadau Mynediad Agored a Data Agored, mae yna gyrhaeddiad byd-eang i’r farchnad cyhoeddiadau cyfnodolion. Fel y cyfryw, mae’n rhaid ystyried datblygiadau polisi Mynediad Agored y Deyrnas Unedig yng ngoleuni patrymau a dewisiadau rhyngwladol.

iv) Dylai pob prifysgol yn y Deyrnas Unedig gofrestru â Datganiad San Francisco ar Asesu Ymchwil (DORA) yn http://www.ascb.org/dora/ er mwyn sicrhau nad yw pwysau asesu ansawdd ymchwil (e.e. y REF) yn rhoi gormod o bwysau chwyddiannol ar y farchnad Mynediad Agored Aur.

v)  Dylai Grwp Cydlynu Mynediad Agored y Deyrnas Unedig gefnogi datblygu safonau gwasanaeth y cytunwyd arnynt yn ymwneud â Mynediad Agored Aur, er mwyn cydnabod y pryderon am wasanaeth gwael ac ymateb y farchnad gan rai cyhoeddwyr. I gefnogi’r amcan hwn, dylai’r Grwp gynnull is-grwp i’r Fforwm Effeithlonrwydd i edrych ar sut mae’r farchnad mynediad agored yn gweithio, is-gr?p Cadwrfeydd i sicrhau fod y gallu i ryngweithredu yn parhau rhwng cadwrfeydd y Deyrnas Unedig, ac is-gr?p Monograffau/Ysgrifau i ddatblygu polisïau ar gyfer mynediad agored yn y farchnad lyfrau.

vi) Mae Mynediad Agored i ddata ymchwil wedi datblygu’n arafach nag ar gyfer cyhoeddiadau ymchwil. Bydd y Concordat ar Ddata Ymchwil Agored yn cael ei gwblhau yn gynnar yn 2016, ac er bod manteision gwyddonol a chyhoeddus wrth fwrw ymlaen â data ymchwil agored, nid yw’r goblygiadau cost ynghylch dosbarthu data o’r fath i’r sector masnachol yn cael eu deall yn llawn eto.

vii) Dylai Fforwm Data Agored y Deyrnas Unedig gydlynu gwaith sy’n ymwneud â hyrwyddo’r map ffordd ar Reoli Data Ymchwil yn y DU.

viii) Mae Llywodraeth yr Iseldiroedd wedi ymrwymo i wneud Mynediad Agored yn flaenoriaeth yn eu Llywyddiaeth ar Gyngor yr Undeb Ewropeaidd – mis Ionawr i fis Mehefin 2016

Mae Jo Johnson, y Gweinidog dros Brifysgolion a Gwyddoniaeth, wedi croesawu’r adroddiad ac wedi cefnogi ymdrechion yn y dyfodol i wneud Mynediad Agored / trefniadau gwrthbwyso tanysgrifio yn fwy economaidd i’r sectorau academaidd ac ymchwilio. Gofynnwyd am adroddiad ar gynnydd pellach erbyn diwedd 2017.

Steve Smith
11 Chwefror 2016

Tuesday 9 February 2016

e-lyfrau: ateb ac achos y rhan fwyaf o'n problemau

Ydych chi wedi gweld e-lyfr ar werth ar Amazon, wedi gofyn i'r llyfrgell ei brynu, ac yna cael gwybod nad oes fersiwn electronig o'r llyfr hwnnw ar gael? Ydych chi'n chwilio am e-lyfr a ddarllenoch ychydig fisoedd yn ôl, ond nid yw'n gweithio mwyach? Mae'n brofiad rhwystredig iawn – a gallaf eich sicrhau ein bod ni yn y Gwasanaethau Gwybodaeth yn rhannu'ch rhwystredigaeth. Ein polisi yw mai e-lyfrau yw'r ffordd ymlaen. Maent yn ein galluogi i gynyddu’r amrywiaeth a nifer y llyfrau sydd ar gael i'n defnyddwyr yn sylweddol, am gost is ac heb effeithio ar ein gofod silffoedd cyfyngedig. Mae llawer o'n defnyddwyr (ond nid pob un o bell ffordd) yn dewis gweithio gydag e-lyfrau yn hytrach na llyfrau print, gan fod modd dod o hyd iddynt yn gyflym a didrafferth, a bod modd dewis o blith cannoedd o filoedd o lyfrau o unrhyw le yn y byd, ar unrhyw adeg. Ond er gwaetha'r manteision amlwg y mae e-lyfrau’n eu cynnig, mae yna lawer o broblemau - ac fe geisiaf grynhoi'r rhain nawr.  

Mae cyhoeddi e-lyfrau yn faes newydd, cymhleth, sy'n newid yn gyson. Rydym yn gwneud ein gorau i ddod o hyd i e-lyfrau pryd bynnag y gwneir ceisiadau amdanynt, ond weithiau nid yw hynny’n bosib. Gydag e-lyfrau, y cyhoeddwyr sy'n penderfynu ar y pris, y telerau trwyddedu, sut y rheolir yr hawliau digidol, nifer y defnyddwyr cydamserol ac ati, sydd yna’n penderfynu a oes modd i ni brynu'r llyfr ai peidio. Mae'r rhan fwyaf o gyhoeddwyr yn darparu eu llyfrau trwy safleoedd penodol megis ebrary neu Dawsonera (sef y safleoedd sy'n cynnwys y rhan fwyaf o'n e-lyfrau ni) a gall llyfrgelloedd eu prynu ar sail sefydliad-cyfan; ond nid yw pob cyhoeddwr yn gwneud hyn. Mae Human Kinetics yn un cyhoeddwr o'r fath. Nid yw’n gwerthu i sefydliadau, dim ond i ddefnyddwyr unigol. Mae’r rheswm am hyn yn syml: arian. Gall wneud mwy o arian drwy werthu ugain copi o'r e-lyfr i ugain myfyriwr unigol na thrwy werthu un copi i lyfrgell y gallai’r ugain myfyriwr hynny ei rannu. 

Rydym wedi ysyried gwahanol ffyrdd o hysbysu saff a myfyrwyr am gyfyngiadau o’r fath, megis cadw rhestr o gyhoeddwyr sydd ddim yn gwerthu e-lyfrau i sefydliadau, ond nid yw mor syml â hynny. Mae amodau trwyddedu e-lyfrau yn newid yn gyson, ac mae'n beth anodd iawn i’w reoli. Nid yw Springer, er enghraifft, yn gwerthu llyfrau unigol ar sail sefydliad-cyfan, ond maent yn gwerthu pecynnau o e-lyfrau i lyfrgelloedd. Mae Gwasg Prifysgol Rhydychen yn enghraifft gymhleth arall; yn wreiddiol roedd ei chyhoeddiadau ar gael trwy Dawsonera, ond yna dwy flynedd yn ôl creodd y Wasg ei llwyfan ei hun o'r enw 'Oxford Scholarship Online' (OSO). Prynasom un e-lyfr ar OSO; nawr mae Gwasg Prifysgol Rhydychen wedi tynnu llawer o'r deunydd o'r llwyfan hwnnw, gan roi'r holl lyfrau cyfreithiol ar lwyfan newydd arall (o'r enw LawTrove), a dim ond unigolion all ei ddefnyddio. Maent yn gwerthu e-lyfrau eraill, unwaith eto dim ond i unigolion, trwy Amazon a gwerthwyr trydydd parti eraill. Mae Pearson, ar y llaw arall, yn cynnig eu cyhoeddiadau i lyfrgelloedd trwy Dawsonera, ond bob tua chwe mis maent yn newid eu telerau trwyddedu i'w gwneud yn llai ffafriol (lleihau nifer y troeon y caniateir defnyddio llyfr mewn blwyddyn, lleihau nifer y defnyddwyr cydamserol, tynnu'r gallu i lawrlwytho llyfrau i’w darllen all-lein, cynyddu'r pris...). Nid dim ond Dawsonera sy’n tynnu deunydd o'i safle; mae'r llyfrau sydd ar gael i ni trwy ein tanysgrifiad ebrary yn newid yn gyson, gyda channoedd o lyfrau newydd yn cael eu hychwanegu, a dwsinau o lyfrau'n cael eu tynnu o'r casgliad bob mis. Mae graddfa'r newidiadau yn golygu bod hyn yn anodd ei reoli, ond rydym ar hyn o bryd yn gweithio ar ffordd o dynnu’r llyfrau a ddileeir o'r catalog ac archebu copïau newydd yn eu lle os oes angen.     

Mae’r amrywiaeth o wahanol lwyfannau, anghysondeb y telerau trwyddedu o gyhoeddwr i gyhoeddwr, a'r ffaith bod y telerau hyn yn newid yn gyson, oll yn peri rhwystredigaeth i'n defnyddwyr. Mae yna derfynau i'r hyn y gallwn ei wneud i newid y sefyllfa, ond rydym yn gwneud rhywfaint o gynnydd: Mae llyfrgelloedd Addysg Uwch, a'r Cydbwyllgor Systemau Gwybodaeth (JISC), yn trafod gyda chyhoeddwyr en masse i geisio sicrhau telerau a phrisiau ffafriol lle bo modd - ond mae hyn yn tueddi i fod ar gyfer pecynnau aml-deitl gyda’r cyhoeddwyr mawr. Hefyd, ysgrifennodd JISC at Pearson yn ddiweddar ar ran yr holl sefydliadau Addysg Uwch i fynegi ein hanfodlonrwydd cyffredinol ynglyn â’r ffordd y mae'r cwmni yn gynyddol yn llesteirio ein hymdrechion i gynnig gwasanaeth da i'n myfyrwyr. Nid yw Pearson wedi ymateb eto, ond roedd yna gryn dipyn o schadenfreude yn y llyfrgell ychydig wythnosau yn ôl pan blymiodd pris cyfranddaliadau'r cwmni, gan eu gorfodi i gyhoeddi rhybudd elw.   

Rwy'n hyderus mai e-lyfrau fydd y ffordd orau i lyfrgelloedd academaidd ddarparu deunydd i'w defnyddwyr yn y dyfodol, ond nes bod y mynediad iddynt yn gyson, yn ddibynadwy, ac yn gost-effeithiol, mae e-lyfrau hefyd yn ffynhonnell o gryn rwystredigaeth i staff a myfyrwyr. Rwy'n deall y rhwystredigaeth honno, ond gallaf eich sicrhau ein bod yn teimlo'r un mor gryf am y peth ac yn gwneud popeth o fewn ein gallu i reoli'r sefyllfa anodd hon, ac i ddarparu'r adnoddau sydd eu hangen ar ein defnyddwyr.  

Rwy'n gobeithio bod hyn wedi mynd i’r afael â rhai o'ch prif bryderon ynglŷn ag e-lyfrau, ac wedi esbonio'r sefyllfa bresennol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, neu awgrymiadau ynghylch sut i wella'r gwasanaeth hwn, mae croeso i chi gysylltu â ni ar ejournals@aber.ac.uk  .


Monday 25 January 2016

Jisc Testunau Hanesyddol: nodweddion newydd

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod nifer o nodweddion newydd wedi cael eu rhyddhau yn Jisc Historical Texts ym mis Rhagfyr i’ch helpu i ddod o hyd i’ch adnoddau a’u hidlo:

Tudalennau cyfatebol o fewn testun

Ar ôl i chi chwilio’ch pwnc, a dod o hyd i gyhoeddiad bydd y nodwedd ‘Matches within text’ yn ymddangos yn y wybodaeth. Trwy glicio ar hwn, bydd yn dangos eich term chwilio mewn cyd-destun ar dudalennau cyfatebol o fewn y cyhoeddiad 





Gweld hidlyddion newydd

Ar ôl dod o hyd i’r cyhoeddiad a chlicio arno i’w weld, gallwch chwilio’r cyhoeddiad yn fanylach trwy ddefnyddio’r hidlyddion a ddangosir isod, sydd ar gael yn y tab ‘Pages’ o fewn y panel ‘Search’. 



Fy Nhagiau

I greu a chadw tagiau ar dudalennau unigol o fewn cyhoeddiad er mwyn dychwelyd atynt wedyn, ewch i’r panel Details a chliciwch ar Tags. Yna rhowch deitl i’r Tag a chliciwch ar Add Tag. Gallwch adael nodiadau, cyfeiriadau neu eiriau allweddol i chi’ch hun i’ch helpu.



 I fynd i’r tagiau yr ydych wedi’u cadw’n hawdd, ewch i frig y dudalen a chliciwch ar My Texts ac yna dewiswch My Tags.


Amrediad Dyddiad

Ar ôl i chi chwilio i bwnc, byddwch hefyd yn gweld yr amrediad dyddiad, sy’n dangos y blynyddoedd y mae canlyniadau eich chwiliad yn canolbwyntio arnynt




Chwiliadau casgliad diofyn

Gallwch nawr ddewis chwilio EEBO, ECCO, neu BL yn unig yn ddiofyn trwy wneud dewisiadau penodol yn y gosodiadau.



Yn gyntaf ewch i Settings 

Yna ewch i’r dewis Collections a dewiswch pa gasgliad yr hoffech eu chwilio’n ddiofyn. Os hoffech ailosod y termau chwilio i chwilio’r holl gasgliadau cliciwch ar Reset.  



Tuesday 5 January 2016

Gwasanaeth Rhyng-Safle nawr yn cynnwys Yr Ysgol Gelf

Gall myfyrwyr a staff yn yr Ysgol Gelf nawr defnyddio Primo i archebu llyfrau i gael eu delifro i’r adran
Lloyd Roderick, Panorama Marc-dosbarth N, 2015




Mae gwneud yn hawdd.  Gellir cyflwyno ceisiadau  trwy fewngofnodi i Primo, catalog y llyfrgell, canfod yr eitem sydd ei hangen (dylai’r eitem gael ei rhestru fel 'Ar Gael'), clicio ar y tab 'Canfod/Gwneud Cais’  a dewis yr opsiwn Rhyng-Safle. Gofynnir ichi ddewis man casglu (gweler delwedd isod).




Unwaith mae'r archeb wedi cael ei osod, cewch e-bost yn esbonio ble a phryd i gasglu’r llyfr.  Pan ydych yn casglu’r llyfr, bydd y pecyn yn cynnwys slip yn esbonio ble, sut a phryd i ddychwelyd y llyfr.
Ychydig o farc dosbarth N, Llyfrgell Hugh Owen

Gallwch dal defnyddio’r llyfrgell fel arfer, ac nid oes modd gwell o ddarganfod deunydd defnyddiol am eich ymchwil na phori’r silffoedd yn part celf Llyfrgell Hugh Owen (adran N, lefel F).  Os ydych angen unrhyw gymorth wrth ddefnyddio unrhyw un o wasanaethau’r llyfrgell, gallwch alw i’m weld yn yr Ysgol Gelf bob prynhawn dydd Mawrth (o 19 Ionawr 2016) neu drefnu apwyntiad trwy e-bost.

Lloyd Roderick
Llyfrgellydd Pwnc - Celf