Monday 4 May 2015

Adroddiad Ymddiriedolaeth Wellcome / Research Information Network ar Ysgolheictod ac Adolygu Cymheiriaid



Mewn ymateb i bryderon academaidd ynghylch effeithiolrwydd trefniadau adolygu gan gymheiriaid ar gyfer papurau a gyhoeddir mewn cyfnodolion, comisiynodd Ymddiriedolaeth Wellcome y Research Information Network (RIN) (http://www.rin.ac.uk/) i ymchwilio i strategaethau posibl i wella’r system adolygu cymheiriaid yng ngoleuni:
i) argaeledd technolegau newydd mewn e-gyfnodolion
ii) y nifer fawr o newydd-ddyfodiaid ym maes cyhoeddi cylchgronau academaidd, yn enwedig cyhoeddi mynediad agored.

Cyhoeddwyd adroddiad y Wellcome Trust / RIN ym mis Mawrth 2015 -
http://www.wellcome.ac.uk/stellent/groups/corporatesite/@policy_communications/documents/web_document/wtp059003.pdf

Mae’r adroddiad yn rhagweld y datblygiadau canlynol:
Bydd mesurau arloesol fel adolygu gan gymheiriaid ar ôl cyhoeddi ac adolygu agored gan gymheiriaid yn araf yn datblygu gan fod y diwylliannau academaidd sy’n cefnogi’r system gyfredol o adolygu gan gymheiriaid cyn cyhoeddi’n bwerus iawn
Er y byddai’n beth da i bob cam o’r broses adolygu gan gymheiriaid fod yn fwy agored, rhaid gwahaniaethu rhwng datgelu enwau adolygwyr a datgelu cynnwys eu hadolygiadau
Mae angen mwy o ryngweithio rhwng golygyddion, adolygwyr ac awduron, cyn ac ar ôl cyhoeddi
Mae mesurau ar lefel erthygl (altmetrics), sy’n mesur y nifer o sylwadau, graddiadau, llyfrnodau a sylw yn y newyddion mae papurau’n eu derbyn ar y we ac yn y cyfryngau cymdeithasol, yn dod yn gynyddol bwysig fel dulliau amgen o fesur ymgysylltu â’r cyhoedd
Mae angen cyflwyno rhyw fath o gydnabyddiaeth ysgolheigaidd i gydnabod cyfraniadau adolygwyr cymheiriaid, fel y dengys datblygiad systemau fel Peerage of Science
(https://www.peerageofscience.org/) a Publons (https://publons.com/). Dylai’r gydnabyddiaeth hon fod ar ffurf priodoli, gan nad oes fawr o frwdfrydedd am system o wobrwyo ariannol ar hyn o bryd
Mae angen gwahaniaethu rhwng adolygu gan gymheiriaid i bennu cadernid academaidd unrhyw bapur ac adolygu i bennu a yw papur yn cyd-fynd â chwmpas ac uchelgais y cyfnodolyn y’i cyflwynwyd iddo. Mae cyhoeddwyr bellach yn dechrau sefydlu “systemau rhaeadru” er mwyn osgoi adolygu’r un papur fwy nag unwaith.

Dywed yr adolygiad nad yw hi eto’n glir a fydd systemau adolygu trydydd parti’n cynyddu eu rôl o fewn cyhoeddi academaidd ai peidio. Fodd bynnag mae’n sicr y byddai cyhoeddwyr academaidd yn croesawu mwy o arweiniad gan ymchwilwyr, adolygwyr a golygyddion o ran y mathau o adolygu gan gymheiriaid maent am eu gweld a’r dibenion y dylai eu cyflawni.  Oni bai bod modd diffinio dibenion adolygu gan gymheiriaid yn gliriach, mae’n bosibl y bydd datblygiadau diweddar o ran adolygu cymheiriaid agored, trydydd parti ac ôl-gyhoeddi yn profi’n ddibwrpas.

I grynhoi, wrth i’r pwysau gynyddu ar ymchwilwyr i gyhoeddi mewn cyfnodolion statws uchel, yn enwedig wrth i gyllidwyr ymchwil edrych am fesurau gwerth mwy meintiol ar gyfer eu gwariant ymchwil, mae angen i gyhoeddwyr a golygyddion wneud yn siŵr fod adolygu gan gymheiriaid yn parhau’n ffilter effeithiol i gynnal safonau academaidd ac tal twyll academaidd. Mae’n hanfodol felly sicrhau gwasanaethau adolygwyr cymheiriaid gwybodus a’u hyfforddi’n briodol.

Steve Smith
1 Mai 2015