Wednesday 3 December 2014

Dilyn Gyrfa neu wneud profiad gwaith yn sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd – mwy na 80 o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn cymryd rhan


Postiwyd gan Lillian Stevenson, Rheolwr Gwasanaethau Academaidd a Llyfrgellydd y Gyfraith

EU Careers



Gwahoddodd Tîm Swyddfa Polisi UE Llywodraeth Cymru Marco Odello o’r Ganolfan Astudiaethau Cyfreithiol Ewropeaidd a Rhyngwladol (Adran y Gyfraith a Throseddeg) a Lillian Stevenson, ar ran Canolfan Dogfennau Ewropeaidd Prifysgol Aberystwyth, i gynnal digwyddiad Gyrfaoedd yr UE yn Llyfrgell Thomas Parry ar 18 Tachwedd 2014.

Daeth mwy na phedwar ugain o fyfyrwyr o wahanol adrannau yn y brifysgol i’r digwyddiad i glywed mwy am y trefniadau ar gyfer sicrhau swyddi a chyfleoedd hyfforddi yn sefydliadau’r UE, ac i glywed gan bobl sy’n gweithio i’r UE, neu sydd wedi gweithio yno.

Bu tri siaradwr yn sôn am y cylch recriwtio a’u profiadau personol eu hunain o wneud cais i sefydliadau’r UE a gweithio ynddyn nhw. Yn ôl y siaradwyr, mae gan sefydliadau’r UE ddiddordeb mewn myfyrwyr o bob disgyblaeth. Y siaradwyr oedd :

  • Victoria Joseph, Llysgennad Gyrfaoedd yr UE, Prifysgol  Aberystwyth 2014-2015
  • Charles Whitmore, Llysgennad Swyddfa Dewis Staff Ewropeaidd ym Mhrifysgol CaerdyddEuropean  
  • Thomas Fillis, Rheolwr Rhanbarthol Ewrop, Asia a Gogledd America yn Fforwm Byd-eang ‘Women in Parliaments’, cyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth

Roedd hi’n ddiddorol clywed Thomas Fillis, cyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth yn sôn am ei waith yn yr UE ac yn gyffrous i weld bod gan gynifer o fyfyrwyr Aberystwyth ddiddordeb mewn gyrfa yn yr UE yn y dyfodol. Rhesymolwyd y trefniadau ymgeisio ac annog y rheiny a oedd yn bresennol i ystyried gwneud cais am yrfa yn yr UE.
  
Gobeithiwn mai hwn fydd y cyntaf o lawer o ddigwyddiadau tebyg a fydd yn tynnu sylw at y gefnogaeth sydd ar gael i fyfyrwyr PA ac yn eu helpu i ddilyn gyrfa yn yr UE. Mae penodi llysgennad o blith myfyrwyr Aberystwyth yn amlygu’r pwysigrwydd y mae Tîm Polisi UE Llywodraeth Cymru yn ei osod ar hybu’r UE fel gyrfa i’r dyfodol i fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. Roedd y Llyfrgell yn falch o dderbyn y gwahoddiad i gydweithio â’r fenter hon.