Monday 28 April 2014

Profiad gwaith yn Llyfrgell Hugh Owen

Mae Laura Nichols, myfyrwraig ar ei thrydedd blwyddyn ym Mhrifysgol Aberystwyth newydd orffen lleoliad profiad gwaith byr gyda staff Gwasanaethau Gwybodaeth yn Llyfrgell Hugh Owen trwy gyfrwng GO Wales.

Dyma beth oedd ganddi i'w ddweud : "Mae’r 3 diwrnod yma wedi bod yn ddefnyddiol iawn i mi ac wedi cryfhau fy nealltwriaeth o’r hyn sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni yn y Gwasanaethau Gwybodaeth. Roedd fy niwrnod cyntaf yn canolbwyntio ar Wasanaethau Cwsmeriaid. Cefais fy nghyflwyno i ‘fapio’ gwasanaethau cwsmeriaid sy'n pwysleisio ar rôl y cwsmer mewn prosesau dydd-i-ddydd. Roedd gweithio gyda'r Tîm Benthyca yn brofiad mwy ymarferol - roeddwn yn gallu gweld prosesau megis digideiddio, cyflenwi dogfennau a chyfarfod â chwsmeriaid wrth y ddesg ymholiadau. Roedd gweithio gyda llyfrgellwyr pwnc ar y trydydd diwrnod yn hynod ddiddorol gan fy mod yn medru gweld sut mae staff yn cysylltu â'r gwahanol adrannau. Roedd y casgliadau arbennig hefyd yn ddiddorol a chefais gyfle i eistedd i mewn ar gyfarfod ynglŷn â chynllunio arddangosfa arfaethedig ynglŷn â myfyrwyr o Gymru a aeth i ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, a oedd yn arbennig o ddiddorol i mi fel myfyriwr Hanes.

Wedi treulio peth amser yma rwyf wedi gweld sut mae pob aelod o’r staff yn gyfrifol am lu o dasgau gwahanol felly nid yw’r gwaith byth yn ddiflas. Mae'r profiad yn wir wedi cryfhau fy nealltwriaeth o’r Gwasanaethau Gwybodaeth ac ennyn diddordeb mewn gyrfa ym maes llyfrgellyddiaeth neu debyg . Roedd yn wych i brofi’r pethau yma ac mae'r staff i gyd wedi bod yn gefnogol ac yn gyfeillgar iawn ".

Sarah Gwenlan, Laura Nichols a Joy Cadwallader yn Hugh Owen Library, Campws Penglais

No comments: