Friday 12 July 2013

Mynediad Galw-Heibio i Adnoddau Electronig

Mae amrywiaeth eang o adnoddau gwybodaeth ar-lein diddorol ar gael i unrhyw un sy’n ymweld â Llyfrgell Hugh Owen, nid i staff a myfyrwyr yn unig. Mae 27 o adnoddau gwahanol y gellir cael mynediad atynt ar gyfrifiadur Mynediad Galw-Heibio arbennig ar y llawr gwaelod. Mae’n bleser gennym ddarparu mynediad detholus i’r adnoddau academaidd hyn, adnoddau y byddai’n rhaid talu tanysgrifiad drud ar eu cyfer, diolch i’r telerau a’r amodau o fewn cytundebau trwydded y cyhoeddwyr. Gallwch ymchwilio i amrywiaeth enfawr o wybodaeth gyfredol a hanesyddol, ar gyfer astudio neu er mwynhad.

Os oes gennych ddiddordeb mewn Hanes, mae’r Times Digital Archive, yn rhoi mynediad i gyfrolau llawn o bapur newydd The Times o 1785 (blwyddyn y daith gyntaf mewn balŵn ar draws y Sianel) tan 1985 (blwyddyn y cyngerdd Live Aid a gododd dros £100 miliwn i roi cymorth i’r newynog yn Affrica). Gall chwiliad syml ddod o hyd i amrywiaeth o erthyglau ar y newyddion a barn pobl dros y 200 mlynedd diwethaf, neu’i gyfyngu i chwilio am newyddion ar ddiwrnod penodol. Gallwch bori trwy benawdau a hysbysebion y gorffennol.

Thursday 4 July 2013

Cwrdd â'ch Llyfrgellydd Gwasanaethau Academaidd #10

Eleni bydd cyfres o erthyglau yn ymddangos ar ein gwefan yn cyflwyno aelodau o dîm y Gwasanaethau Academaidd

Dan Smith
Myfyriwr Graddedig dan Hyfforddiant yn y Llyfrgell 2013/14


Fi yw Dan Smith ac rwy’n ffurfio 50% o’r Myfyrwyr Graddedig dan Hyfforddiant yn y Llyfrgell a
gyflogir gan y  Gwasanaethau  Gwybodaeth ar gyfer blwyddyn academaidd 2013/14. Mae fy amser yn cael ei rannu rhwng pedair adran/pedwar tîm yn y llyfrgell; Rheoli Adnoddau, Caffaeliadau a Chasgliadau, Gwasanaethau Academaidd, Benthyca ac E-Wasanaethau a Chyfathrebu. Mae hyn yn rhoi cyfle i mi gael amrywiaeth eang o brofiad ymarferol o’r modd y caiff llyfrgell academaidd ei rhedeg o ddydd i ddydd, gan roi i’r llyfrgell unigolyn dibrofiad i geisio ei hyfforddi.

Ar ôl i’m profiad cyntaf o fyd addysg ddod i ben pan oeddwn yn ddeunaw oed, gweithiais i’r llywodraeth leol ac roeddwn yn rhan o’r gwaith o weinyddu hyfforddiant athrawon ledled Powys. Ar ôl rhai blynyddoedd o drefnu hyfforddiant i eraill, dechreuais feddwl am ddychwelyd at addysg fy hun. O’r diwedd penderfynais geisio dod o hyd i yrfa a fyddai’n fy ngalluogi i drefnu a didoli pethau, felly llyfrgellydd amdani.