Tuesday 7 May 2013

Ffynonellau ar gyfer Crysiau: Drama Online



Yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer myfyrwyr Drama a Saesneg, mae Drama Online yn gasgliad o ddramâu sy'n cynnwys gwybodaeth cyd-destunol a nifer o offer ar-lein unigryw a all eich helpu gydag astudiaeth fanwl.

Ochr yn ochr â chasgliad sylweddol o weithiau dramatig, mae'r wefan yn cynnig arweiniad arbenigol ar ffurf nodiadau ysgolheigaidd, gwybodaeth cyd-destunol, a throsolwg o'r prif gysyniadau a’r materion sy’n cael eu harchwilio. Mae'r ystod eang o destunau dramatig ar y safle yn cael eu darparu gan Bloomsbury mewn partneriaeth â Methuen DramaFaber and Faberac Arden Shakespeare.






Yn ogystal mae gan rhai o’r dramâu ddelweddau perthnasol a lluniau cynhyrchu llonydd, ac mae pob drama yn chwiliadwy er mwyn hwyluso’r broses o we-lywio a chael gafael ar ddarnau penodol.  Mae pob testun hefyd yn cynnwys dyfyniad sy’n hawdd ei allforio, ac wedi ei gyflwyno mewn fformat clir a hygyrch sy'n gwneud darllen yn bleser.
Mae'r tanysgrifiad hefyd yn cynnwys dau offer ar-lein soffistigedig, sy’n darparu amgylchedd ddigidol blaengar er mwyn eich cynorthwyo i ymgysylltu â'r dramâu yn fwy dwfn.




Mae'r offeryn Character Grid,  yn caniatáu i chi ond i weld llinellau ar gyfer cymeriad penodol.



Mae’r offeryn 
Words and Speeches yn dangos cyfanswm y geiriau ym mhob golygfa


Mae’r dramâu yn cael eu grwpio ynghyd mewn nifer o ffyrdd gwahanol i'ch helpu i archwilio pyncia u a'u categoreiddio yn briodol.




No comments: