Wednesday 13 March 2013

Cwrdd â'ch Llyfrgellydd Gwasanaethau Academaidd

Dyma gyfres o ddarnau yn cyflwyno aelodau o Dîm y Gwasanaethau Academaidd.

Amy Staniforth
Tanzania

Fy enw i yw Amy Staniforth a des i i faes llyfrgelloedd ac archifau drwy’r byd academaidd. Ar ôl gwneud gradd israddedig mewn Astudiaethau Americanaidd a Chanadaidd ym Mhrifysgol Birmingham – gyda blwyddyn ym Mhrifysgol California Santa Barbara (!) – ac MA mewn Llenyddiaeth a’r Amgylchedd ym Mhrifysgol Nevada, Reno (sef y lle cyntaf i gynnig y rhaglen MA) gwnes fy ngradd PhD mewn Astudiaethau Affricanaidd nôl ym Mirmingham. Mae testunau ac amgylcheddau o bob math bob amser wrth galon fy niddordebau – o lenyddiaeth dditectif wedi’i ysbrydoli’n lleol i arddangosfeydd mewn amgueddfeydd ac adroddiadau’r National Geographic ynghylch darganfod hynafiaid dynol yn nwyrain Affrica – ac rwyf wrth fy modd yn helpu pobl i weld y deunydd ffynhonnell sydd o’u cwmpas.



Yn wreiddiol o’r canolbarth, denwyd fy nghŵn a minnau i lan y môr lle bum yn gweithio i BBC Ar-lein yn gyntaf, ac yna’n rheoli casgliad theatr arbennig yma yn y Brifysgol, cyn cychwyn fel Swyddog Gwybodaeth yn y Gwasanaethau Gwybodaeth ym mis Ionawr 2013.

Rwy’n gweithio i dîm y gwasanaethau academaidd yn Llyfrgell Hugh Owen ac mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn dysgu sgiliau ymchwilio a datblygu ffyrdd amrywiol o ddefnyddio casgliadau arbennig. Pan nad wyf yn y llyfrgell rwy’n gweithio ar fy niploma Gweinyddu Archifau fel dysgwr o bell, ac rwyf wedi bod yn helpu i drefnu archif Canolfan y Dechnoleg Amgen ar y cyd â Llyfrgell Genedlaethol Cymru.


Yn fy amser hamdden go iawn, rwy’n mwynhau darllen nofelau. Ar  ôl gwneud fy ngradd PhD, cefais fy mod wedi anghofio darllen ffuglen heb deimlo’n euog, felly rwy’n dal yn tueddi i ddarllen un llyfr ar ôl y llall. Rwyf hefyd yn hoff o fwyd,  ac yn hoff iawn o gerdded, gyda chŵn os oes modd. Doedd dim hawl mynd â chŵn ar y daith gerdded o amgylch Cymru y gwnes i’r llynedd, felly daeth fy mrawd gyda mi a, thrwy lwc (yn wahanol iddo ef) cofiais innau fy sgidiau cerdded! Ar ôl byw yn UDA a Thanzania yn ogystal â gorllewin gwyllt Cymru - rwy’n hoffi her wrth deithio – fe wnaethom fwrw’r Nadolig yn Bruges gyda’r cŵn un flwyddyn, ac rydym wedi gwneud ambell daith yn y car i weld aelodau o’r teulu yn y Weriniaeth Tsiec – gan gymryd y ffordd hir bob amser, sy’n aml yn cynnwys gyrru dros yr Alpau mewn car eithriadol o hen, achos pam lai?


Rhyw ddydd hoffwn deithio i weld Goleuni’r Gogledd a cherdded drwy’r eira yng nghanol y nos. Ond am y tro bodlonaf ar eistedd gyda nofel yn ein cartref ynni isel (sydd bron wedi’i gwblhau) yn edrych ar y glaw drwy ffenestri triphlyg!

Y Newyddion Diweddaraf (Ebrill 2013): Amy bellach yw Arweinydd y Tîm Cadwrfa Sefydliadol a Metadata 


No comments: