Wednesday 9 January 2013

Adnoddau ar gyfer Cyrsiau: Bomb Sight




Mae Bomb Sight yn wefan sy’n trawsnewid cofnodion a oedd ond ar gael yn flaenorol yn yr Archifau Cenedlaethol  mewn i  fformat rhyngweithiol sy’n ehangu mynediad i’r wybodaeth hanesyddol  bwysig hon yn sylweddol. Yn flaenorol roedd y mapiau cyfrifiad hyn o fomiau a syrthiodd rhwng 7/10/1940 a 6/6/1941 ond ar gael yn Ystafell Ddarllen yr Archifau Cenedlaethol.

Mae’r wefan yn cyflwyno map sy’n nodi lleoliadau bomiau penodol, ac yn rhoi gwybodaeth am y math o fom a’r lleoliad lle disgynnodd.


 Mae Bomb Sight gan Brifysgol Portsmouth wedi ei drwyddedu o dan  
 Creative Commons Attribution-Non Commercial-ShareAlike 3.0 Unported License.




Mae Bomb Sight yn cysylltu lleoliadau’r bomiau hyn i fapiau, delweddau ac atgofion sy’n archwilio realiti hanesyddol  Llundain yn ystod y cyrch fomio. Gellir trefnu’r data o dan wahanol gategoriau, sy’n eich galluogi i weld prif dargedau’r Luftwaffe trwy adael  ichi ddynodi  pa leoedd a fomiwyd sy’n cael eu harddangos ar y map. Mae’r adnodd hwn yn eich galluogi ond i weld y bomiau a syrthiodd ar noson gyntaf y cyrch awyr neu yn ystod yr wythnos gyntaf.


Wrth chwyddo’r map, gellir gweld fod pob bom wedi ei rhifo, ceir gwybodaeth am y math o fom a’r union amser a’r lleoliad y syrthiodd. Mae'r gronfa ddata yn tynnu ar amrywiaeth eang o wybodaeth archifol i gyflwyno'r canfyddiadau fel y’u gwelir ar y wefan mewn fformat clir a rhyngweithiol.

Ar gyfer y rhai sy’n lleol i Lundain, mae’r prosiect wedi cyflwyno app  Android sy’n taflunio lleoliad y safleoedd lle syrthiodd bomiau ar eu safleoedd presennol. Mae app Bomb Sight yn arddangos yr holl fomiau a syrthiodd mewn mannau sydd gerllaw i chi a hefyd yn eich galluogi i weld delweddau perthnasol o’r cyfnod.



No comments: