Wednesday 22 August 2012

Arsylwad Torfol Arlein (Mass Observation Online): Hanes Cymdeithasol Prydain 1937-1972

Pwrcasiad pwysig gan Llyfrgell y Brifysgol


Ewch i Mass Observation Online: http://www.massobservation.amdigital.co.uk/
Gellir ei weld hefyd trwy gyfrwng Cronfeydd Data A-Z yn Primo. Oddi ar y campws gellir cael mynediad trwy gyfrwng Shibboleth (Mewngofnodwch i Primo) a’r VPN.
Mae Mass Observation Online yn awr ar gael i fyfyrwyr a staff Prifysgol Aberystwyth yn dilyn prynu trwydded barhaol gan Llyfrgell y Brifysgol.
Fe wnaeth y prosiect ymchwil adnabyddus hwn gasglu data am agweddau cymdeithasol Prydeinwyr trwy gyfrwng holiaduron a gwblhawyd gan wirfoddolwyr, gan archwilwyr yn cofnodi ymddygiad a sgyrsiau mewn mannau a digwyddiadau cyhoeddus, a chan banel o ddyddiadurwyr.
I gychwyn archwilio gweler y cyfarwyddiadau yma.

Yn Mass Observation Online gallwn chwilio archifau, gan hidlo canlyniadau fesul math o ddogfen a’r dyddiad. Mae chwiliad am dywydd yn canfod lliaws o ganlyniadau gan gynnwys y darn isod gan was ffarm o swydd Northampton ym mis Gorffennaf 1944 yn cynnig sylwadau ar y tywydd ymhlith pethau eraill: [cliciwch ar y llun i'w chwyddo]

Mae pori’r cynnwys hefyd yn werth chweil : rhowch gynnig ar Topic Collections a phorwch y trawsgrifiadau sydd wedi eu digido am y gosb eithaf, crefydd neu droseddau pobl ifainc. Ceir lawrlwythiadau PDF o’r cynnwys.
Mae’r dudalen Nature and Scope yn disgrifio’n llawn y fethodoleg a ddefnyddiwyd, ynghyd â dadansoddiad manwl o’r cynnwys arlein a rhychwant y dyddiadau. Bydd diweddariadau pellach o’r cynnwys yn cael eu rhyddhau gan Adam Matthew, cyhoeddwr arlein yr Archif.
Mae’r tab Resources yn cynnig mapiau rhyngweithiol. e.e. I weld ble ‘roedd y dyddiadurwyr dienw yn byw, cronoleg, llyfryddiaeth, dolenni cyswllt defnyddiol ac oriel o luniau cyfoes.
Am fwy o wybodaeth cefndir am yr Archif, gweler blog newyddion diweddaraf yr Arsylwad Torfol am gyhoeddiadau ar gyfres o ddarlithoedd, prosiectau a digwyddiadau eraill sy’n deillio o’r Archif.
E-bostiwch ni os gwelwch yn dda: acastaff@aber.ac.uk gyda sylwadau neu gwestiynau am Mass Observation Online.

No comments: