Friday 13 April 2012

Adnoddau ar gyfer Cyrsiau: EDINA Agcensus

Os ydych yn astudio Amaethyddiaeth yma yn Aberystwyth, mae’n bosibl y bydd EDINA agcensus yn ddefnyddiol i chi. Mae Agcensus yn cynnig mynediad ar-lein i ddata sy’n deillio o UK Agricultural Censuses. Ceir yma gyfoeth o wybodaeth sy’n ymestyn yn ôl i 1969, ac yn ddiweddar ychwanegwyd ato ystadegau o Gyfrifiadau 2010.














Cynhelir y Cyfrifiad Amaethyddol yn flynyddol ym mis Mehefin gan adrannau’r llywodraeth sy’n ymwneud ag Amaethyddiaeth a Materion Gwledig yn yr Alban, Lloegr a Chymru (h.y. SEERADDEFRA ac Adran yr Amgylchedd a Chefn Gwlad, Llywodraeth Cymru). Mae pob ffermwr yn nodi ar holiadur post y gwaith amaethyddol a wneir ar ei dir. Yna mae’r adrannau llywodraeth perthnasol yn casglu’r 150 eitemau o wybodaeth ac yn cyhoeddi’r wybodaeth sy’n ymwneud â daliadau ffermydd yn y Deyrnas Gyfunol.


Ers diwedd y 90au, mae cyfrifiad amaethyddol Lloegr wedi cael ei gynnal fel arolwg enghreifftiol sy’n gofyn yn flynyddol am wybodaeth am gyfran o’r daliadau yn unig. Yn 2006 dechreuodd Cyfarwyddiaeth Ystadegol Llywodraeth Cymru gynnal arolwg amaethyddol (yn lle’r cyfrifiad amaethyddol). Mae gwasanaeth EDINA agcensus yn darparu mynediad i amcangyfrifon blynyddol o waith amaethyddol fesul sgwariau grid 2km, 5km a 10km ar gyfer y tair gwlad o 1969 tan heddiw.

Sut gallaf ei ddefnyddio?
Ceir mynediad i EDINA agcensus(http://edina.ac.uk/agcensus/) ar y campws drwy system Shibboleth ar unrhyw gyfrifiadur ar rwydwaith y campws, neu i ffwrdd o’r campws drwy gysylltiad VPN.

Ewch i’r wefan a Mewngofnodi drwy ‘UK federation’.




Fe ofynnir i chi fewngofnodi eich enw defnyddiwr Aber a’ch cyfrinair. Ar ôl cael mynediad i’r system rhoddir tri dewis i chi.








Gallwch weld mapiau, neu lawrlwytho taenlenni excel o’r data. Fel arfer daw Crynodeb yr Alban ar ffurf ffeil PDF y gallwch ei lawrlwytho.

Mae pob dewis yn dilyn trefn cam wrth gam sy’n hawdd iawn eu defnyddio. Y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw dewis y wlad, y flwyddyn a’r math o ddata sydd ei angen arnoch. Mae yna gyfoeth o gymorth yn nhudalennau CHA y wefan.



























I ba bwrpas mae pobl/cymdeithasau yn defnyddio’r data?
  • I ddeall natur a graddfa newidiadau Amaethyddol ym Mhrydain.
  • Ar gyfer marchnata. Mae’n caniatáu i gymdeithasau wneud penderfyniadau ynglŷn â’r defnydd o dir. Gellir defnyddio’r wybodaeth i greu darlun byw o sefyllfa ffermio.
  • I dynnu sylw pobl a busnesau i gyfleoedd newydd o fewn y diwydiant. Gall y sawl sy’n dymuno amcangyfrif gweithgaredd posibl yn y dyfodol wneud hynny ar sail 30 mlynedd o wybodaeth.
Os oes gennych gwestiynau neu sylwadau, neu os hoffech drefnu hyfforddiant neu sesiwn atgoffa ar gyfer adnoddau ar-lein ym Mhrifysgol Aberystwyth, cysyllwch â:


Gwasanaethau Academaidd
acastaff@aber.ac.uk
01970 621896

No comments: