Thursday 22 December 2011

Y Virtual Training Suite


Cyfres o diwtorialau am ddim ar y Rhyngrwyd yw’r Virtual Training Suite i’ch cynorthwyo i ddatblygu sgiliau ymchwil ar y Rhyngrwyd ar gyfer eich cwrs prifysgol. Ysgrifennwyd ac adolygwyd pob tiwtorial gan dîm cenedlaethol o ddarlithwyr a llyfrgellwyr o brifysgolion ledled y Deyrnas Unedig. Mae’r gyfres diwtorialau rhyngweithiol hunan-ddysgu yn cymryd tuag awr yn fras i’w cwblhau – rydych chi’n gweithio’ch ffordd drwy’r deunydd yn eich amser eich hun fel y dymunwch. Erbyn y diwedd dylai fod gennych syniad reit dda am y ffordd i ddod o hyd i’r gwefannau gorau ar y We sy’n addas i waith prifysgol, a byddwch yn deall sut y gall meddwl yn feirniadol wella ansawdd eich ymchwil ar lein. Mae ‘na gyfanswm o 60 tiwtorial, yn cwmpasu pob pwnc, felly cofiwch beidio â cholli allan ar yr adnodd hwn!

Wednesday 14 December 2011

Cwrdd â'ch Llyfrgellydd Gwasanaethau Academaidd #2

Y tymor hwn bydd cyfres o erthyglau yn ymddangos ar ein gwefan yn cyflwyno aelodau o dîm y Gwasanaethau Academaidd. Y tro hwn, mae'n y llyfrgellydd Astudiaethau Gwybodaeth a Rheolaeth a Busnes.





Anita Saycell
Ar ôl treulio nifer o oriau gwirfoddol yn gweithio yn fy llyfrgell gyhoeddus leol ers yn 14 oed (nid yw pob un o ferched Essex yn treulio’u hamser yn mynd allan) roedd fy ngyrfa fel llyfrgellydd yn dechrau siapio. Y cam nesaf oedd gwaith cyflogedig yn y llyfrgell gyhoeddus cyn symud i’r Gorllewin ac astudio gradd Llyfrgellyddiaeth yn Aberystwyth. Wedi hynny cefais swydd fel Llyfrgellydd Cynorthwyol yn y Swyddfa Gartref, yna ymunais â’r Gwasanaethau Gwybodaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2003. Pan nad wyf yn gweithio mae gennyf blentyn bach bywiog sy’n fy nghadw’n brysur ac rwy’n treulio unrhyw amser rhydd sydd gennyf yn dysgu gwersi nofio ac yn mwynhau cerdded, beicio a bod yn yr awyr agored.

Gweler hefyd: diwrnod ym mywyd llyfrgellydd.