Wednesday 12 October 2011

Cwrdd â'ch Llyfrgellydd Gwasanaethau Academaidd #1

Y tymor hwn bydd cyfres o erthyglau yn ymddangos ar ein gwefan yn cyflwyno aelodau o dîm y Gwasanaethau Academaidd. Dyma ni’n dechrau gyda Rheolwr y Gwasanaethau Academaidd a Llyfrgellydd y Gyfraith. Draw atat ti Lilian...




Lillian Stevenson
Rwyf wedi bod yn gweithio yn y Gwasanaethau Gwybodaeth a Llyfrgell Prifysgol Aberystwyth ers sawl blwyddyn, ac fel sawl un arall fe astudiais yn Aber hefyd.



Gan deithio nôl mewn amser, fe astudiais y Gyfraith ym Mhrifysgol Birmingham a Phrifysgol Sheffield cyn gweld y golau a chymryd cwrs uwchraddedig yng Ngholeg Llyfrgellyddiaeth Cymru, sydd bellach yn Adran Astudiaethau Gwybodaeth Prifysgol Aberystwyth. Treuliais flwyddyn odidog, a fyddai efallai’n cael ei alw’n flwyddyn allan heddiw, yng Ngogledd Cymru ar Benrhyn Llŷn yn gweithio ar y llyfrgelloedd symudol yn dosbarthu llyfrau, a oedd yn aml wedi’u cyhoeddi’n gymharol ddiweddar, i ffermdai a phentrefi bach anghysbell. Ymhlith y cwsmeriaid roedd RS Thomas, Ficer Aberdaron. Bu’n sioc enfawr symud i Lundain i gychwyn ar fy swydd broffesiynol gyntaf fel un o dri llyfrgellydd mewn cwmni cyfreithiol mawr yn y Ddinas - sef Norton Rose. Roedd yn wahanol iawn i gefn gwlad Cymru, a hwn oedd y fy ymweliad cyntaf â’r “De”. Roedd yn ymddangos yn grand iawn i mi, gyda chiniawau partneriaid a Chinio Nadolig yn y Dorchester.

Serch hynny symudais ymlaen i gychwyn ar swydd Llyfrgellydd y Gyfraith ym Mhrifysgol Fetropolitan Manceinion, gyda chiniawau Nadolig yn Chinatown y tro hwn. Mae’n amlwg i mi gymryd at yr amgylchedd academaidd oherwydd ar ôl cyfnod byr yn gweithio i gwmni ymgynghori/ cyhoeddi tra’n edrych ar ôl fy mab ifanc, symudais i Brifysgol Aberystwyth i fod yn Llyfrgellydd y Gyfraith ac mae’r gweddill yn hanes fel maen nhw’n dweud...Rwyf yn dal i weithio fel Llyfrgellydd y Gyfraith ond rwyf wedi ymgymryd â chyfrifoldebau ychwanegol dros y blynyddoedd, ac rwyf ar hyn o bryd yn Rheolwr y Gwasanaethau Academaidd yma. Mae Aberystwyth yn le prydferth a hudol, ac ydy, mae’r haul yn tywynnu wrth i mi ysgrifennu, ac ydw, rwyf newydd symud i mewn i fy swyddfa newydd sydd â golygfeydd trawiadol o Fae Ceredigion...

                                                     A bit of a "do" to celebrate the Law Library 2013
Mae sesiwn academaidd newydd wedi cychwyn ac ar ôl mynychu cyflwyniad diweddar gan David Edgar, rwyf wedi mynd ati i ailddarllen The History Man gan Malcolm Bradbury, ond fe wnaf gloi drwy ddyfynnu rhai o’r sylwadau cardiau post a ysgrifennodd myfyrwyr wrth iddynt adael Aber:
“Mwynhewch y profiad, byddwch yn gweld ei eisiau ar ôl i chi adael”

“Welwch chi’r poteli Sambuca yna? Peidiwch â’u hyfed, byddan nhw’n llyncu’ch benthyciad”

“Byddwch yn unigolyn a dilynwch eich trywydd eich hun”
yn ogystal â rhai o’m hoff recordiau:

Louis Armstrong – Wonderful World
Leonard Cohen – Halleluja
Richard Thompson – Oops!... I Did It Again
Bellowhead – Prickle Eye Bush
The Smiths – This Charming Man
Grace Kelly & Phil Woods – Man with the Hat
Bill Haley – See You Later Alligator
Ewan MacColl – Joy of Living


No comments: