Thursday 2 June 2011

Adnoddau Diweddaraf ProQuest: Dydd Iau, Mehefin 9fed


Bydd Rebecca Price o ProQuest yn ymweld â Gwasanaethau Gwybodaeth ar fore Iau, Mehefin 9fed i gyflwyno tair sesiwn ddiweddaru ar blatfform newydd ProQuest ynghyd ag adnoddau ProQuest yr ydym yn tanysgrifio iddynt.



Cynhelir y sesiynau yn Ystafell Seminar, Llyfrgell y Gyfraith ar Lefel E, Llyfrgell Hugh Owen:

9.00-10.15 ProQuest: Y Platfform Newydd
Bydd y sesiwn hon yn cwmpasu nodweddion newydd a geir ar blatfform newydd ProQuest gan ganolbwyntio ar Library Information Science Abstracts(LISA) a PsycArticles

10.15-10.30: Y diweddaraf ar Dialog: Sesiwn Holi ac Ateb
Bydd Rebecca yn rhoi cyflwyniad byr ar y diweddaraf ar broses uwchraddio i blatfform tebyg ar gyfer Australian Education Index, ERIC a British Education Index a bydd yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau a fydd gennych.

10.30-10.45: Te/Coffi

10.45-11.15: Diweddariad Chadwyck Healey
Early English Books Online (EEBO), Periodicals Archive Online, Literature Online, House of Commons Parliamentary Papers cyffredin a gwybodaeth ar gynnyrch newydd Early European Books

Croeso ichi fynychu un sesiwn neu’r cyfan.

No comments: