Wednesday 12 January 2011

Cyflwyniad i’r llyfrgell a chyfnod pontio’r dysgwr

Ymunais â Phrifysgol Aberystwyth ym mis Medi eleni. Yn fy swydd flaenorol ym Mhrifysgol Caerlŷr, bûm yn rhan o brosiect a oedd yn ymchwilio i gyfnod pontio myfyrwyr i addysg uwch. Un o brif ganfyddiadau’r prosiect oedd y ffaith fod myfyrwyr yn dosbarthu’r gwahanol fathau o wybodaeth a gyflwynwyd iddynt cyn ac yn ystod eu diwrnodau cyntaf yn y Brifysgol:
  • Gwybodaeth wrthrychol, strwythuredig iawn a ffurfiol = Gwybodaeth Oer
  • Gwybodaeth llai strwythuredig, lled-ffurfiol = Gwybodaeth Gynnes
  • Gwybodaeth anffurfiol, llai strwythuredig a goddrychol = Gwybodaeth Boeth (1)

Oherwydd yr wybodaeth gefndirol hon, roeddwn yn awyddus wrth ymuno â Phrifysgol Aberystwyth i ddysgu mwy ynglŷn â sut mae myfyrwyr yn teimlo am wahanol fathau o wybodaeth sydd ar gael iddynt drwy’r Llyfrgell.

Fy mhrif dasg gyntaf, yn ystod yr wythnos gyntaf yn y swydd, oedd cymryd rhan yn sesiynau cyflwyno’r llyfrgell a wnaeth barhau am bythefnos a mwy. Yn hytrach na’r drefn arferol o ystafell ddosbarth draddodiadol, penderfynodd Gwasanaethau Gwybodaeth greu awyrgylch dysgu lled-ffurfiol gan greu eisteddle o fagiau ffa a chyflwyno’r sesiynau drwy ddefnyddio cyfuniad o ddarlithoedd, fideo, arddangosfeydd a theithiau. Drwy fabwysiadu’r dull hwn, fe lwyddodd y cyflwyniad, yn gyfrwys iawn, i integreiddio dulliau dirnadol a chymdeithasol o ddysgu.

Mae’r ffurflenni adborth a gwblhawyd ar ddiwedd pob sesiwn yn awgrymu i’r myfyrwyr fwynhau natur led-ffurfiol yr wybodaeth, hynny yw, “gwybodaeth gynnes” a gyflwynwyd iddynt a’r awyrgylch llai strwythuredig ar gyfer y cyflwyniad ei hun, fel y mae’r tabl a’r dyfyniad canlynol yn ei ddangos:

Beth wnaethoch chi ei fwynhau am y sesiwn cyflwyno?



“Rwy’ o’r farn fod y bagiau ffa wedi cyfrannu tuag at awyrgylch ymlaciol y sesiwn. Gall eistedd mewn darlithfeydd a chlywed gwybodaeth yn cael ei thaflu atoch chi fod yn eithaf brawychus”.

Mae amryw astudiaethau ar gyfnodau pontio dysgu wedi disgrifio pwysigrwydd hanfodol gwybodaeth a sut y mae’n ffurfio disgwyliadau myfyrwyr a’u hagwedd tuag at ddysgu. Gall llyfrgelloedd chwarae rôl allweddol wrth gefnogi’r cam o drosglwyddo’n llwyddiannus i addysg uwch gan ddefnyddio sesiynau cyflwyno. Mae cyfuniad gofalus o wybodaeth “oer” “cynnes” a “phoeth” wedi’u cyflwyno mewn awyrgylch y mae’r myfyrwyr yn teimlo’n gartrefol ynddo yn siŵr o gyfrannu’n sylweddol tuag at gyfnod pontio’r myfyrwyr yn ogystal â’u cadw yma yn y pen draw.

  1. Ball, S. J., a Vincent, C. (1998) “I heard it on the grapevine”: “hot” knowledge and School choice. British Journal of Sociology of Education, 19: 377-400.
  2. Edirisingha, P., Cane, C., Cane, R., a Nikoi, S. Informal Mobile Podcasting And Learning Adaptations for Transition (IMAPAL4T). Cofnodwyd ar 10 Rhagfyr, 2010, o http://www2.le.ac.uk/departments/beyond-distance-research-alliance/projects/impala4t/Impala4T-final-report-final.pdf

No comments: