Thursday 22 December 2011

Y Virtual Training Suite


Cyfres o diwtorialau am ddim ar y Rhyngrwyd yw’r Virtual Training Suite i’ch cynorthwyo i ddatblygu sgiliau ymchwil ar y Rhyngrwyd ar gyfer eich cwrs prifysgol. Ysgrifennwyd ac adolygwyd pob tiwtorial gan dîm cenedlaethol o ddarlithwyr a llyfrgellwyr o brifysgolion ledled y Deyrnas Unedig. Mae’r gyfres diwtorialau rhyngweithiol hunan-ddysgu yn cymryd tuag awr yn fras i’w cwblhau – rydych chi’n gweithio’ch ffordd drwy’r deunydd yn eich amser eich hun fel y dymunwch. Erbyn y diwedd dylai fod gennych syniad reit dda am y ffordd i ddod o hyd i’r gwefannau gorau ar y We sy’n addas i waith prifysgol, a byddwch yn deall sut y gall meddwl yn feirniadol wella ansawdd eich ymchwil ar lein. Mae ‘na gyfanswm o 60 tiwtorial, yn cwmpasu pob pwnc, felly cofiwch beidio â cholli allan ar yr adnodd hwn!

Wednesday 14 December 2011

Cwrdd â'ch Llyfrgellydd Gwasanaethau Academaidd #2

Y tymor hwn bydd cyfres o erthyglau yn ymddangos ar ein gwefan yn cyflwyno aelodau o dîm y Gwasanaethau Academaidd. Y tro hwn, mae'n y llyfrgellydd Astudiaethau Gwybodaeth a Rheolaeth a Busnes.





Anita Saycell
Ar ôl treulio nifer o oriau gwirfoddol yn gweithio yn fy llyfrgell gyhoeddus leol ers yn 14 oed (nid yw pob un o ferched Essex yn treulio’u hamser yn mynd allan) roedd fy ngyrfa fel llyfrgellydd yn dechrau siapio. Y cam nesaf oedd gwaith cyflogedig yn y llyfrgell gyhoeddus cyn symud i’r Gorllewin ac astudio gradd Llyfrgellyddiaeth yn Aberystwyth. Wedi hynny cefais swydd fel Llyfrgellydd Cynorthwyol yn y Swyddfa Gartref, yna ymunais â’r Gwasanaethau Gwybodaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2003. Pan nad wyf yn gweithio mae gennyf blentyn bach bywiog sy’n fy nghadw’n brysur ac rwy’n treulio unrhyw amser rhydd sydd gennyf yn dysgu gwersi nofio ac yn mwynhau cerdded, beicio a bod yn yr awyr agored.

Gweler hefyd: diwrnod ym mywyd llyfrgellydd.

Monday 28 November 2011

Adnoddau ar gyfer Cyrsiau: Primo (Rhan 2)


Yn fy mlog diwethaf cyfeiriais at hanfodion Primo, catalog llyfrgell y Brifysgol. Gobeithio bod hynny wedi rhoi digon o wybodaeth i chi ar sut i chwilio am lyfr a dod o hyd iddo yn y llyfrgell. Gadewch i ni nawr edrych ar agweddau uwch a phersonol sydd ar gael yn Primo, a sut gall y rheini eich cynorthwyo i reoli eich gwaith yn y llyfrgell yn fwy effeithiol.

Y peth cyntaf i’w wneud yw Mewngofnodi eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair Aber. Mae hyn yn arbennig o bwysig gan mai dim ond ar ôl gwneud hynny y gallwch ddefnyddio’r agweddau pellach hyn.

Wednesday 16 November 2011

Sesiynau croesawu Llyfrgell Genedlaethol Cymru


Mae trigolion Aberystwyth yn ffodus iawn i gael Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar garreg eu drws. Mae gan y Llyfrgell Genedlaethol gasgliad anhygoel o adnoddau ac ar hyn o bryd mae’n cynnig sesiynau croesawu dyddiol sy’n ceisio cyflwyno’r llyfrgell a’i hadnoddau i unrhyw ddarllenwyr newydd (ynghyd â sesiynau am bynciau eraill, yn rhad ac am ddim). Gallwch gofrestru am y sesiynau ar-lein a cheir gwybodaeth am sut i gael tocyn darllen yma.

Wednesday 9 November 2011

Gwasanaethau Gwybodaeth: dweud eich barn am y gwasanaeth argraffu/copïo/sganio


Yn ystod yr wythnos sy’n cychwyn Tachwedd 07 2011 bydd cyfle gennych i ddweud eich barn ar sut y gallwn wella ein gwasanaeth argraffu/copïo/sganio. Os dymunwch gallwch gymryd rhan mewn raffl i ennill tocyn Amazon gwerth £30. Ewch i http://www.survey.bris.ac.uk/aber/awgrymiadau11

Friday 21 October 2011

Yn cael trafferth gyda’ch aseiniad academaidd cyntaf?

Dewch draw:

I gamu fewn, i gamu fyny a chamu i lwyddo!

  • Enillwch netbook Samsung!
  • Danteithion am ddim
  • Rhannwch eich syniadau da ar sut i fynd ati i astudio, ynghyd â’r sialensiau
12:30-15:30 dydd Mercher, Tachwedd 2ail yn Llyfrgell Hugh Owen

A dewch â’ch cwestiynau ar gyfer:
  • Daniel Butler, Cymrawd Ysgrifennu’r Brifysgol
  • John Morgan, Cymorth Myfyrwyr
  • Julie Keenan, Gyrfaeoedd
  • Robin Chapman, Adran y Gymraeg
  • Gwasanaethau Gwybodaeth
Unrhyw ymholiadau at: acastaff@aber.ac.uk

Thursday 20 October 2011

Lansio cardiau post glan môr prin a chartwnau gwleidyddol ar-lein


"I have reason to believe your wife's jelly is famous all over Wales."

Mae cardiau post glan môr prin, a ystyriwyd yn rhy anfoesgar i’w cyhoeddi ar un adeg, ymhlith 35,000 o luniau sy’n cael eu lansio ar-lein er budd addysg ac ymchwil. Mae’r lluniau wedi cael eu digideiddio a’u catalogio gan Archif Cartwnau Prydain ym Mhrifysgol Caint.

Wednesday 12 October 2011

Cwrdd â'ch Llyfrgellydd Gwasanaethau Academaidd #1

Y tymor hwn bydd cyfres o erthyglau yn ymddangos ar ein gwefan yn cyflwyno aelodau o dîm y Gwasanaethau Academaidd. Dyma ni’n dechrau gyda Rheolwr y Gwasanaethau Academaidd a Llyfrgellydd y Gyfraith. Draw atat ti Lilian...




Lillian Stevenson
Rwyf wedi bod yn gweithio yn y Gwasanaethau Gwybodaeth a Llyfrgell Prifysgol Aberystwyth ers sawl blwyddyn, ac fel sawl un arall fe astudiais yn Aber hefyd.

Thursday 29 September 2011

Adnoddau ar gyfer Cyrsiau: Primo (Rhan 1)


O’r holl adnoddau mae’r Brifysgol yn tanysgrifio iddynt, mae’n sicr y byddwch yn defnyddio Primo o’r cychwyn cyntaf.

Fel catalog y llyfrgell, mae Primo yn rhoi manylion am yr holl eitemau a gedwir yn llyfrgelloedd y Brifysgol, ynghyd ag ystod helaeth o gronfeydd data i gynnig help llaw gyda’ch ymchwil. Mae hefyd yn gweithredu fel porth i’ch cyfrif llyfrgell, gan eich galluogi i weld ac adnewyddu benthyciadau, talu eich dirwyon a gwneud ceisidau am lyfrau o’n Storfa Allanol.

Friday 16 September 2011

Dod o hyd i lyfr yn y llyfrgell

Dyma'r ein fideo newydd sydd yn mynd a chi gam wrth gam drwy'r broses.

Thursday 8 September 2011

Ffynonellau ar gyfer Cyrsiau: Papurau Seneddol Tŷ’r Cyffredin


Os ydych yn astudio Gwleidyddiaeth, y Gyfraith, Hanes neu ond â diddordeb ym mhrosesau mewnol Tŷ’r Cyffredin, fe gewch wledd o wybodaeth ar gyfer eich ymchwil ar gronfa ddata Papurau Seneddol Tŷ’r Cyffredin (House of Commons Parliamentary Papers – HCPP)

Mae HCPP, sy’n rhad ac am ddim i staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, yn cynnig cronfa ddata gynhwysfawr o Bapurau Seneddol, sy’n deillio o 1688 i fyny hyd at 2004. Fe gewch ddogfennau sydd wedi llunio’r modd y llywodraethir Prydain, gan gynnwys mesurau a drafodwyd yn Nhŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi cyn iddynt ddod yn Ddeddfau Seneddol.

Monday 8 August 2011

Ffynonellau ar gyfer Cyrsiau: Tu hwnt i Google Maps ... EDINA Digimap Collections

Gan Rosie Atherton (Cyn Fyfyriwr Graddedig Dan Hyfforddiant yn y Gwasanaethau Gwybodaeth)

Fel un sy’n cyfaddef ei bod wrth ei bodd â Google Maps, byddwn yn argymell treulio awr neu ddwy yn pori drwy fyd hynod ddiddorol EDINA Digimap Collections.

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi tanysgrifio i ddefnyddio EDINA Digimap Collections, ac mae hyn yn galluogi holl fyfyrwyr a staff Aberystwyth i gofrestru i ddefnyddio’r adnodd Digimap … yn rhad ac am ddim! Fel defnyddiwr cofrestredig, bydd modd i chi ddefnyddio Historic Digimap, Geology Digimap yn ogystal â chasgliad yr Arolwg Ordnans.

Wednesday 20 July 2011

Archif ar-lein anferth yn rhoi cipolwg o ddyfodiad y Tsieina fodern



Yn ddiweddar cafodd 8,000 o ffotograffau prin, yn darlunio bywyd yn Tsieina tua dechrau’r ugeinfed ganrif, eu lansio ar-lein drwy’r prosiect Visualising China – sef archif rhithwir unigryw sy’n cynnig cyfleoedd newydd i ymchwilwyr ymchwilio a rhyngweithio â delweddau o Tsieina a gymerwyd rhwng 1850-1950.

Monday 4 July 2011

Ffynonellau ar gyfer Cyrsiau: ychwanegiadau newydd ar gyfer y Gymru fodern yn yr Oxford Dictionary of National Biography


Ewch i’r Oxford Dictionary of National Biography (ODNB) neu Gronfa Ddata A-Z yn Primo: http://primo.aber.ac.uk/.

Yn yr adran sy’n canolbwyntio ar y Gymru Fodern ym mis Mai fe ychwanegodd yr Oxford Dictionary of National Biography 45 bywgraffiad o ŵyr a gwragedd a luniodd hanes diwylliant, gwleidyddiaeth, diwydiant a chwaraeon Cymru.

Wednesday 29 June 2011

Connected Histories



Mae ‘Connected Histories’ yn darparu un man canolog i chi gael gafael ar ystod eang o adnoddau digidol yn ymwneud â hanes Prydain yn y cyfnod modern cynnar a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’n rhoi modd i chi chwilio am enwau, lleoedd a dyddiadau ac yn golygu y gallwch ddefnyddio miliynau o dudalennau o destun, cannoedd o filoedd o eiriau a degau o filoedd o fapiau a lluniau. Caiff ymchwilwyr glicio’r llygoden i agor trysorfa o dystiolaeth am bob pwnc, bron, yn hanes Prydain; o briodasau brenhinol, mudiadau diwygio seneddol, troseddwyr drwg-enwog, i fywydau pobl gyffredin yn Llundain.

Thursday 2 June 2011

Adnoddau Diweddaraf ProQuest: Dydd Iau, Mehefin 9fed


Bydd Rebecca Price o ProQuest yn ymweld â Gwasanaethau Gwybodaeth ar fore Iau, Mehefin 9fed i gyflwyno tair sesiwn ddiweddaru ar blatfform newydd ProQuest ynghyd ag adnoddau ProQuest yr ydym yn tanysgrifio iddynt.

Monday 9 May 2011

200 mlynedd o newyddion!



- Chwiliwch y testun llawn
- Gweler erthyglau fel rhan o’r dudalen yr argraffwyd hwy arnynt
- Didolwch ganlyniadu chwiliadau fesul newyddion, nodwedd, delwedd ac hysbyseb
- Gweler eich term chwilio wedi ei amlygu ar ddelwedd y dudalen
- Dewiswch ddyddiad a phorwch y rhifyn hwnnw

Thursday 14 April 2011

Mae 'Croeso i’ch Llyfrgell 2010' yn ennill gwobr


Ar gyfer Medi 2010 aeth y Gwasanaeth Gwybodaeth ati i ailgynllunio trefniadau’r llyfrgell i ymsefydlu israddedigion. Roeddem am sicrhau bod ymweliad cyntaf y myfyrwyr â’r llyfrgell yn addysgiadol, ond hefyd yn ddifyr ac yn bleserus, felly aethom ati i ailystyried pob elfen o’r broses ymsefydlu: lleoliad, cynnwys, marchnata, amserlenni, technolegau, hyd yn oed y seddi: - sef y rheswm am y bagiau ffa enwog! O ganlyniad dyfarnwyd ‘cymeradwyaeth Uchel’ i’r llyfrgell yng Ngwobrau Arloesedd Marchnata Cymru (categori Addysg Uwch) am ein sesiynau 'Croeso i’ch Llyfrgell 2010', a gynhaliwyd ar 27 - 30 Medi, rhwng 10 y bore a 5 y prynhawn bob dydd.

Wednesday 23 February 2011

Mae’r Llyfr wedi marw; hir oes i’r Llyfr.

Pedair blynedd ar bymtheg yn ôl mynychais weithdy a drefnwyd gan y Cyngor Prydeinig ym Manceinion. Proffwydodd un o hwyluswyr y gweithdy y byddai’r “llyfr” yn marw cyn troad y ganrif nesaf. Aeth ugain mlynedd heibio ac mae’r “llyfr” yn dal yn fyw, er ei fod yn gwisgo mentyll gwahanol, ac un o’r rhain yw’r “e-fantell”. Nid oes amheuaeth bod e-lyfrau, h.y. fersiynau digidol o destunau, wedi cipio dychymyg ein cymdeithas, ac wedi effeithio ar y berthynas rhwng pobl sy’n defnyddio llyfrgelloedd a darparwyr gwasanaethau gwybodaeth.

Thursday 17 February 2011

Sgiliau Arholiad – ‘Ein Barn Ni’

Fideo mewn dwy ran a grëwyd i gefnogi’r digwyddiad Sgiliau Arholiad a drefnwyd gan y Gwasanaethau Gwybodaeth. Mae’r myfyrwyr yn siarad am eu profiadau o arholiadau, a’u dewis o ddulliau astudio.



Thursday 3 February 2011

Gweithio’n gallach – sgiliau astudio i fyfyrwyr yn Blackboard


Gall israddedigion sydd am ddiweddaru eu sgiliau astudio yn awr gofrestru ar fodiwl heb ei gredydu yn BlackBoard a dewis dosbarthiadau o’r Rhaglen Ymarferion Astudio Israddedig.

Wednesday 12 January 2011

Cyflwyniad i’r llyfrgell a chyfnod pontio’r dysgwr

Ymunais â Phrifysgol Aberystwyth ym mis Medi eleni. Yn fy swydd flaenorol ym Mhrifysgol Caerlŷr, bûm yn rhan o brosiect a oedd yn ymchwilio i gyfnod pontio myfyrwyr i addysg uwch. Un o brif ganfyddiadau’r prosiect oedd y ffaith fod myfyrwyr yn dosbarthu’r gwahanol fathau o wybodaeth a gyflwynwyd iddynt cyn ac yn ystod eu diwrnodau cyntaf yn y Brifysgol:
  • Gwybodaeth wrthrychol, strwythuredig iawn a ffurfiol = Gwybodaeth Oer
  • Gwybodaeth llai strwythuredig, lled-ffurfiol = Gwybodaeth Gynnes
  • Gwybodaeth anffurfiol, llai strwythuredig a goddrychol = Gwybodaeth Boeth (1)

O LE i OFOD: Amgylchfyd dysgu sy’n ysbrydoli.

Pwnc a’m cyfareddodd erioed yw cynllunio gofod yn greadigol er mwyn ffurfio ymddygiad dysgu. Fe’m magwyd mewn cyfnod pan hyrwyddwyd y syniad fod dysgu ond yn digwydd mewn LLE (Disgybl, Gwersi, Awdurdod yr athro/athrawes, Ystafell Ddosbarth ac Arholi). Yn ystod y degawdau diwethaf, cafwyd newid patrwm sydd bellach yn hyrwyddo’r syniad o amgylchfyd dysgu fel GOFOD (Cymdeithasol, Cyfranogol, Addasiadol, Cydweithredol, Technolegol Uwch a Rhannu).