Thursday 27 May 2010

BFI InView


Rydym newydd drefnu i’n defnyddwyr gael defnyddio gwasanaeth InView y BFI. Mae’n cynnwys mwy na 2,000 o deitlau ffilm a theledu, nad ydynt yn gynyrchiadau ffuglenol, o’r 20g tan ddechrau’r 21g. Mae’n hawdd chwilio drwy’r teitlau ac mae wedi’i drefnu yn ôl chwech o brif themâu, a phob un â thraethawd cyflwyniadol gan hanesydd academaidd.



Dyma a ddywed gwefan y BFI: "Detholwyd casgliadau InView yn ofalus o doreth o ddeunydd ar gadw yn Archif Genedlaethol y BFI, yn cynnig golygfeydd amrywiol ar ddiweddiadau, datblygiadau a dadleuon, gyda sylwebaeth awdurdodol ac addysgiadol gan guraduron y BFI ac arbenigwyr eraill. Cyfle i weld a lawrlwytho deunydd na welir yn aml, ffilmiau’r llywodraeth, dogfennau ysgrifenedig, rhaglenni newyddion, rhaglenni dogfen teledu, rhaglenni trafod, recordiadau seneddol, a llawer mwy. Adnodd anhepgor i unrhyw astudiaeth ar hanes diweddar Prydain."

Bydd angen ichi fewngofnodi er mwyn defnyddio’r adnodd hwn.

No comments: