Wednesday 2 December 2009

Diogelwch cyfrineiriau wrth ddefnyddio e-gyfnodolion neu e-lyfrau


Os gwelwch yn dda gwnewch yn siŵr nad ydych yn defnyddio eich enw mewngofnodi (e-bost) a chyfrinair Prifysgol Aberystwyth wrth gyrchu e-gyfnodolion, e-lyfrau ac adnoddau electronig eraill PA. Dylech ond ddefnyddio’r rhain ar wefan neu flwch deialog sydd ym mharth .aber.ac.uk e.e. shibboleth.aber.ac.uk. Ceir cyfarwyddiadau ar sut i gyrchu e-gyfnodolion a.y.b oddi ar y campws yn y nodyn “Authentication” yn E-gyfnodolion@Aber neu trwy ddefnyddio’r botwm ‘i’ yn yr elyfrgell.

Os gwelwch yn dda cyrchwch y rhain trwy gyfrwng Voyager neu borth yr E-wybodfa. Am gymorth pellach, e-bostiwch ejournals@aber.ac.uk.



Cymrwch ofal wrth ddefnyddio eich enw defnyddiwr neu gyfeiriad e-bost Prifysgol Aberystwyth ar y we

Os ydych yn defnyddio eich enw defnyddiwr neu e-bost Prifysgol Aberystwyth ar dudalen gwe heb y cyfeiriad aber.ac.uk rhaid ichi ddefnyddio cyfrinair gwahanol

Os na wnewch chi hyn bydd eich cyfrif cyfrifiadurol yn cloi er mwyn eich amddiffyn rhag

- Gwe-rwydo - beth yw gwe-rwydo?
- Defnyddio eich enw defnyddiwr a chyfrinair gan eraill

Os yw eich cyfrifiadur yn cael ei gloi, os gwelwch yn dda cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori.

No comments: