Wednesday 11 November 2009

Mabwysiadwch Arferion Academaidd Da


"Mabwysiadwch Arferion Academaidd Da i wneud y gorau o'ch astudiaethau"
  • Mae sgiliau astudio da yn arwain at farciau gwell ac yn golygu eich bod yn fwy trefnus ac ymlaciedig.
  • Mae cyfeirnodi da a darllen yn eang yn gymorth er mwyn osgoi llên-ladrad.
  • Mae defnyddio ffynonellau gwybodaeth o safon uchel yn gwella ansawdd eich gwaith.

Awydd gwybod mwy?

Os ydych, dewch i Undeb y Myfyrwyr ddydd Mercher 25ain Tachwedd am sesiwn hanner diwrnod rhad ac am ddim a fydd yn gymorth mewn rhai o'r ardaloedd yma, a stondin wybodaeth er mwyn ateb cwestiynau a rhoi cyngor.

Croeso i chi alw mewn ar gyfer unrhyw sesiwn o'ch dewis - neu aros amdanynt i gyd. Cynhelir yr holl ddigwyddiadau yn 'Y Joint', i fyny'r grisiau wrth ichi fynd mewn i'r adeilad.
  • 10.30-11.00 Esbonio Priodoli Diogel i fyfyrwyr
    Mary Jacob, Gwasanaethau Gwybodaeth
  • 11.10-12.00 Sut y gall meddalwedd lyfryddol eich cynorthwyo i drefnu eich cyfeirnodau, troednodion a llyfryddiaethau
    Joy Cadwallader, Gwasanaethau Gwybodaeth
  • 12.10-13.00 Defnydd effeithiol o ddeunydd wedi ei gyhoeddi (defnyddio ffynhonnell cyfeirnodau mewn modd beirniadol)
    John Morgan, Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr
  • 13.10-14.00 Ymarfer annheg (llên-ladrad, sut a phryd i ddyfynnu)
    Glenys Williams, Darlithwraig, Adran y Gyfraith a Throseddeg
  • 14.00-14.15 Gwasanaeth Cymorth Ysgrifennu'r Gronfa Lenyddol Frenhinol - sesiynau un i un er mwyn datblygu eich ysgrifennu academaidd
    Elin Ap Hywel, Awdur Y Gronfa Lenyddol Frenhinol

No comments: