Wednesday 26 August 2009

Eighteenth Century Collections Online (ECCO) Part 2


Eighteenth Century Collections Online (ECCO): Yn ddiweddar mae’r casgliad enfawr hwn o ddeunydd wedi ei ddigideiddio’n llawn sy’n cynnwys llyfrau, pamffledi, traethodau, taflenni a mwy wedi ei helaethu. Yn ôl cyhoeddwr, Gale,

“Ers rhyddhau’r casgliadau ECCO gwreiddiol, mae’r Catalog Teitlau Byr Saesneg (ESTC) wedi canfod deunydd newydd, gwerthfawr a daliadau newydd o deitlau nad oedd ar gael yn flaenorol. Yn ail, mae datblygiadau cyflym mewn technoleg sganio wedi galluogi Gale i ddigideiddio deunydd a oedd yn rhy fregus i’w drafod adeg casgliad gwreiddiol ECCO.

Mae’r teitlau yn cwmpasu'r un meysydd pwnc â’r casgliad gwreiddiol, gyda phwyslais arbennig ar Lenyddiaeth, Gwyddorau Cymdeithasol a theitlau yn ymwneud â Chrefydd. Mae’r ail argraffiad yn cynnwys 45,000 o deitlau allan o ddaliadau llyfrgelloedd sefydliadau o fri megis y Llyfrgell Brydeinig, Llyfrgell Bodley, Llyfrgell Caergrawnt, Llyfrgell Genedlaethol yr Alban a Llyfrgell Genedlaethol Yr Iwerddon.”

Mae pob gair o’r testunau yn chwiliadwy, ac mae modd ichi yn awr draws-chwilio gyda Llyfrau Saesneg Cynnar Ar Lein (EEBO 1475-1700).

Gellir cael mynediad trwy gyfrwng yr e-lyfrgell neu’r E-Wybodfa.

No comments: