Thursday 28 May 2009

E-lyfrau yn y Gwasanaethau Gwybodaeth


 
Rydym yn byw mewn oes lle ystyrir bod amser yn beth prin. Rydym ni oll angen gwybodaeth; yn ddelfrydol, hoffem ei chael ar yr union adeg y mae ei hangen arnom. Os yw hi’n 3 o’r gloch y bore a chithau’n ceisio gorffen darn o waith ymchwil, ond rydych eisiau gwirio dyfyniad neu gyfeiriad, nid ydych eisiau aros nes bod y llyfrgell yn agor er mwyn gwneud hynny.



Peidiwch â phoeni, mae staff y Gwasanaethau Gwybodaeth yn awyddus i fodloni’ch anghenion. Felly rydym wedi darparu e-lyfrau (copïau o destunau sydd ar gael yn electronig) sy’n golygu:
  • Bod y llyfrau ar-lein ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos, ar y campws neu oddi ar y campws;
  • Nid oes angen dod i’r llyfrgell;
  • Nid oes raid poeni bod rhywun arall wedi benthyca’r llyfr o’ch blaen.
Dyma rai o anfanteision e-lyfrau:
  • Nid yw darllen llyfr cyfan ar y sgrin mor braf â chael y llyfr ei hun;
  • Ni allwch ddarllen e-lyfrau yn y bath;
  • Mae’n golygu eich bod yn colli allan ar ymweliad â’r llyfrgell, lle mae holl wybodaeth y ddynolryw wedi cael ei dosbarthu a’i ffeilio er cyfleustra i chi.
Ond er gwaethaf y diffygion mawr hyn mewn e-lyfrau, mae potensial enfawr yn y ffaith bod mwyfwy o destunau craidd ar gael yn electronig, a gallant fod yn ffordd ardderchog o helpu yn y frwydr gyson i ddarparu digon o gopïau heb brynu niferoedd mawr o fersiynau argraffedig nad oes eu hangen erbyn yr argraffiad nesaf.

Mae’r dudalen yma yn rhestru’r prif gasgliadau o e-lyfrau y mae’r Brifysgol yn tanysgrifio iddynt, yn ogystal â rhai casgliadau o destunau clasurol sydd ar gael yn rhad ac am ddim. I wneud pethau’n haws, mae gan Voyager chwiliwr newydd i chwilio’n arbennig am e-lyfrau – rhowch gynnig arno yma.

Noder, os ydych chi’n aelod o’r staff dysgu a’ch bod yn gweld bod gennym unrhyw rai o’r eitemau sydd ar eich rhestrau darllen ar gael fel e-lyfrau, sicrhewch fod eich myfyrwyr yn gwybod amdanynt – byddant yn gwerthfawrogi pob cymorth gennych.

No comments: