Wednesday 16 December 2009

Treial rhad ac am ddim o wasanaeth argymhellwr erthyglau newydd

Mae Gwasanaethau Gwybodaeth yn treialu gwasanaeth argymhellwr erthyglau newydd ‘bX Recommender’ yn rhad ac am ddim. Mae’r gwasanaeth hwn yn debyg iawn i’r hyn a gynigir gan Amazon “mae’r cwsmeriaid sydd wedi prynu hwn hefyd wedi prynu…..” heblaw bod hwn yn argymell erthyglau cyfnodolion. Mae’n cynnig argymhellion sydd wedi eu seilio ar ddefnydd go iawn o ddata, wedi eu crynhoi yn rhyngwladol ac yn cyfeirio at erthyglau ysgolheigaidd perthnasol. Gybodaeth bellach. Os hoffech gynnig adborth ar y gwasanaeth hwn e-bostiwch ujh@aber.ac.uk.

Wednesday 2 December 2009

Diogelwch cyfrineiriau wrth ddefnyddio e-gyfnodolion neu e-lyfrau


Os gwelwch yn dda gwnewch yn siŵr nad ydych yn defnyddio eich enw mewngofnodi (e-bost) a chyfrinair Prifysgol Aberystwyth wrth gyrchu e-gyfnodolion, e-lyfrau ac adnoddau electronig eraill PA. Dylech ond ddefnyddio’r rhain ar wefan neu flwch deialog sydd ym mharth .aber.ac.uk e.e. shibboleth.aber.ac.uk. Ceir cyfarwyddiadau ar sut i gyrchu e-gyfnodolion a.y.b oddi ar y campws yn y nodyn “Authentication” yn E-gyfnodolion@Aber neu trwy ddefnyddio’r botwm ‘i’ yn yr elyfrgell.

Os gwelwch yn dda cyrchwch y rhain trwy gyfrwng Voyager neu borth yr E-wybodfa. Am gymorth pellach, e-bostiwch ejournals@aber.ac.uk.

Wednesday 11 November 2009

Mabwysiadwch Arferion Academaidd Da


"Mabwysiadwch Arferion Academaidd Da i wneud y gorau o'ch astudiaethau"
  • Mae sgiliau astudio da yn arwain at farciau gwell ac yn golygu eich bod yn fwy trefnus ac ymlaciedig.
  • Mae cyfeirnodi da a darllen yn eang yn gymorth er mwyn osgoi llên-ladrad.
  • Mae defnyddio ffynonellau gwybodaeth o safon uchel yn gwella ansawdd eich gwaith.

Thursday 29 October 2009

Fideos newydd yn dangos sut mae ymchwilwyr yn defnyddio uwch dechnoleg

Mae fideos yn dangos sut mae JISC yn helpu ymchwilwyr i wneud eu gwaith yn gyflymach, yn well ac yn amgenach drwy rhithfeydd ymchwil newydd gael eu rhyddhau ar YouTube.

Mae'r fideos yn dangos prosiectau o raglen rhithfeydd ymchwil yr JISC, sy'n ceisio dod o hyd i ffyrdd o gysylltu pobl â'i gilydd a chyflymu prosesau ymchwil ar draws disgyblaethau. Maent yn cynnwys seryddiaeth, ffiseg, electroneg, cemeg ac astudio dogfennau hynafol.

Friday 2 October 2009

Mynediad electronig ar gyfer cyfnodolion

Yn ystod yr haf we wnaeth y Llyfrgell dynnu sylw adrannau academaidd (ynghyd â gofyn am adborth) at y ffaith ein bod, o fis Ionawr 2010 ymlaen, yn bwriadu symud i fynediad electronig ar gyfer cyfnodolion Gwasg Prifysgol Rhydychen, Springer, Gwasg Prifysgol Caergrawnt ac Elsevier. Mae hyn yn awr wedi digwydd. Os gwelwch yn dda gweler y rhestrau o deitlau cyfnodolion sydd wedi eu trosi i fynediad electronig yn unig.

Wednesday 26 August 2009

Eighteenth Century Collections Online (ECCO) Part 2


Eighteenth Century Collections Online (ECCO): Yn ddiweddar mae’r casgliad enfawr hwn o ddeunydd wedi ei ddigideiddio’n llawn sy’n cynnwys llyfrau, pamffledi, traethodau, taflenni a mwy wedi ei helaethu. Yn ôl cyhoeddwr, Gale,

Thursday 28 May 2009

E-lyfrau yn y Gwasanaethau Gwybodaeth


 
Rydym yn byw mewn oes lle ystyrir bod amser yn beth prin. Rydym ni oll angen gwybodaeth; yn ddelfrydol, hoffem ei chael ar yr union adeg y mae ei hangen arnom. Os yw hi’n 3 o’r gloch y bore a chithau’n ceisio gorffen darn o waith ymchwil, ond rydych eisiau gwirio dyfyniad neu gyfeiriad, nid ydych eisiau aros nes bod y llyfrgell yn agor er mwyn gwneud hynny.

Thursday 7 May 2009

Datganoli a'r Cyrff Deddfwriaethol Newydd yn y DU


 
Mae'r llyfryddiaeth ar Ddatganoli a’r Cyrff Deddfwriaethol Newydd yn y DU yn arf defnyddiol i ymchwilwyr ac eraill sydd â diddordeb ym mhroses ddatganoli a sut mae’r cyrff deddfwriaethol newydd yn gweithio.

Wednesday 11 March 2009

Cadw’n gyfoes gyda’ch pwnc

On’d yw hi’n braf pan fydd rhywbeth rydych am ei gael yn cael ei roi i chi, fel nad oes angen i chi fynd i chwilio amdano eich hun?

Os trosglwyddwn ni’r syniad yna i’r byd ymchwil, mae’n bosibl ymweld â phob gwefan unigol ar draws ystod eang o gylchgronau - a phori drwy’r copïau print yn y llyfrgell - dim ond er mwyn ceisio cadw’n gyfoes yn eich maes. Ond byddai hynny’n dasg undonog a fyddai’n llenwi’ch amser chi i gyd pe byddech chi am fonitro nifer o deitlau gwahanol.

Tuesday 3 March 2009

Cyfle i ennill Tocyn Llyfr £40

Mae'n adeg llenwi mewn holiadur Gwasanaethau Gwybodaeth unwaith eto. Llynedd, fe ddywedoch wrthym eich bod eisiau cyfrifiaduron newydd yn yr ystafelloedd cyfrifiadurol, ac fe wnaethom hynny. Beth ydych am i ni wneud eleni?
Arolwg Defnyddwyr y Gwasanaethau Gwybodaeth
A ydym yn plesio?
Buaswn yn gwerthfawrogi eich barn os gwelwch yn dda
Dyddiad cau - Mawrth 31
http://www.inf.aber.ac.uk/cymraeg/user-survey.asp
Gwobr raffl - Enill tocyn llyfyr £40

Monday 2 March 2009

Diwrnod y Llyfr 2009 – Beth sydd tu fewn dy glorie di…???

I ddathlu Diwrnod y Llyfr rydym yn gwahodd myfyrwyr a staff i alw heibio Llyfrgell Hugh Owen rhwng 10am a 3pm ar ddydd Iau, Mawrth 5ed i:

• Chwarae gyda’r Darllenyddion e-lyfr diweddaraf

• Ffeirio/Trwco llyfrau – Dewch â llyfr – ewch â llyfr

Tuesday 24 February 2009

Adnoddau ar-lein newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth: Casgliad Burney a’r Casgliad Cyfnodolion Prydeinig I a II

Daeth Casgliad Burney i feddiant y Llyfrgell Brydeinig flwyddyn wedi marwolaeth y Parch Charles Burney (1757-1817), ysgolhaig clasurol ac ysgolfeistr. Digideiddiwyd y casgliad yn 2007 o ganlyniad i gydweithrediad rhwng y Llyfrgell Brydeinig, Gale/Cengage a’r Sefydliad Gwyddonol Cenedlaethol. Mae’r casgliad ar-lein yn cynnwys 1,270 o deitlau, yn bennaf papurau seneddol, papurau newydd Llundeinig, cyfnodolion, papurau rhanbarthol Lloegr a phapurau newydd o’r Iwerddon, yr Alban a’r Unol Daleithiau.

Wednesday 18 February 2009

Cyrsiau Sgiliau Newydd dros awr ginio

Cyrsiau sgiliau byr yn Llyfrgell Hugh Owen, 13:10-14:00 bob dydd Mercher, fel a ganlyn:
  • Dewch o hyd i bopeth ar eich rhestr ddarllen (Chwefror 18fed)
  • Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf yn eich pwnc astudio (Chwefror 25ain)
  • Gwerthuso gwybodaeth arlein ar gyfer eich gwaith academaidd (Mawrth 4ydd)
  • Defnyddio meddalwedd i greu llyfryddiaethau hawdd (Mawrth 11eg)
  • Word ar gyfer ysgrifennu traethodau (Mawrth 18fed)
Disgrifiadau o’r cyrsiau ac archebu lle ar lein.

Friday 30 January 2009

Prosiect Cenedlaethol Arsyllfa E-lyfrau JISC


Fel rhan o’n hymrwymiad i ddarparu’r adnoddau diweddaraf, mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth wedi ymuno â Phrosiect Cenedlaethol Arsyllfa E-lyfrau JISC - arbrawf sy’n ceisio deall sut mae e-lyfrau yn cael eu defnyddio ac arbrawf a allai helpu i ffurfio dyfodol y ddarpariaeth e-lyfrau yn y Deyrnas Unedig. Mae’r prosiect yn ymchwilio i’r canlynol:
  • effaith e-lyfrau testunau craidd ar ddysgu’r myfyrwyr;
  • sut mae myfyrwyr yn dod o hyd i’r e-lyfrau a sut maent yn eu defnyddio;
  • beth yw eu barn am yr e-lyfrau;
  • sut y gellir hyrwyddo e-lyfrau;
  • sut y gall e-lyfrau gyflawni eu potensial fel adnodd addysgol hanfodol.